Recordio deunydd sain i fodloni gofynion creadigol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â recordio deunydd sain i fodloni gofynion creadigol. Mae'n debyg y bydd yn berthnasol i gerddoriaeth ond fe all fod yn berthnasol i ffynonellau sain eraill. Mae'n debyg y byddwch yn ymwneud â'r safon hon mewn stiwdio recordio, ystafell raglennu, gorsaf radio neu stiwdio cymysgu ond fe all fod yn berthnasol i leoliadau eraill. Mae'n debygol y bydd, ond nid ydyw o reidrwydd, yn ymdrin â recordiadau lle bydd angen sawl cynnig.
Mae'r safon yn ymwneud â gwirio gosodiad cyfarpar recordio, cyfathrebu gyda pherfformwyr, monitro recordiadau a gwneud addasiadau, llunio taflenni traciau a labelu a chadw ffeiliau.
Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio, peirianwyr sain a rhaglenwyr sy'n recordio deunydd sain i fodloni gofynion creadigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adalw rhaglenni ac adfer unrhyw gynnwys sydd wedi'i recordio eisoes ac sy'n ofynnol ar gyfer recordiadau
- gwirio bod y cyfarpar recordio wedi'i osod ac yn gweithio fel y disgwylir iddo wneud 
- gwirio y caiff cyfarpar recordio ei addasu i gyd-fynd â'r amgylchedd y byddwch yn recordio ynddo 
gofalu bod yr holl berfformwyr wedi derbyn cyfarwyddyd am yr hyn ddisgwylir ganddyn nhw
- gofalu y caiff yr holl ffynonellau sain eu recordio 
- monitro'r recordiad a gwneud unrhyw addasiadau fyddai'n gwella'r ansawdd 
- gwirio bod lefelau signal y deunydd sain yn bodloni'r paramedrau 
- cydbwyso traciau arwahanol sydd wedi'u recordio er mwyn gwella eglurder yr holl lefelau chwarae 
- defnyddio peirianwaith, dewislenni a pharamedrau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr 
- datrys unrhyw broblemau gyda'r cyfarpar, y gadwyn recordio, perfformwyr ac allbynnau, rydych yn gyfrifol amdanyn nhw, ar unwaith 
- cyfeirio unrhyw broblemau na allwch eu datrys i'r bobl briodol heb oedi 
- cyfathrebu gyda'r perfformwyr ynghylch cynnydd ar adegau priodol 
- cadw a throsglwyddo recordiadau yn eu cyflwr gwreiddiol heb eu diraddio, heb achosi problemau amseru nac ychwaith heb ddirywio'r ansawdd 
- cadw ac archifo recordiadau a ffeiliau wrth gefn yn unol â gweithdrefnau diogelwch data cyfundrefnol 
- llunio taflenni traciau eglur a manwl o'r perfformiadau sydd wedi'u recordio 
- labelu'r ffeiliau sydd wedi'u cwblhau yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol 
- cydymffurfio gydag egwyddorion iechyd a diogelwch o ran gwrando'n ddiogel bob amser 
- ailosod, diffodd a thacluso cyfarpar recordio pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adalw deunyddiau o'r archif ac adfer recordiadau wedi'u cadw ar ddyfais recordio aml-drac digidol neu analog
- sut i gysylltu a llwybro offerynnau i systemau recordio digidol neu analog drwy drawfyrddau recordio neu weithfannau sain digidol (DAWs)
- y gadwyn recordio a lefelau signal ar gyfer signalau sain
- gwybodaeth am ansawdd a gofynion creadigol
- defnydd cydbwyso lefelau ar ddeunydd sydd wedi'i recordio
- egwyddorion sylfaenol trawfyrddau recordio a sut i'w defnyddio
- gofynion perfformwyr i fedru clywed eu hunain a sut i gyflawni hyn
- gwahanol ofynion ac ymarfer wrth recordio cerddoriaeth a dialog
- sut i bennu pa mor brofiadol ydy'r perfformwyr dan sylw mewn stiwdio
- sut a phryd i gyfathrebu gyda pherfformwyr
- y gwahaniaethau o ran amodau ac ymarfer recordio rhwng darllediadau tu allan, sain fyw a recordio mewn stiwdio
- gofod acwstig a nodweddion lleoliad ynghyd â sut i'w rheoli
- pwysigrwydd cadw cynnwys sain gwreiddiol
- y gwahaniaethau rhwng recordio cynnwys byw a phan mae sawl cynnig
- ymarfer da o ran y broses recordio ar ddyfeisiau recordio digidol neu analog
- sut i ddefnyddio peirianwaith, dewislenni a pharamedrau perthnasol i fudo a throsglwyddo lleoliad sain, mewnforio lleoliad sain a chadw ffeiliau sain
- defnydd cywir o systemau labelu, enw'r rheolwyr a'r teitl a thraciau gwaith i'w golygu gan gynnwys SPARS
- sut i gadw cynnwys wedi'i recordio ynghyd â ffeiliau DAW yn eu cyflwr gwreiddiol gan ddefnyddio BWAV, WAV, AIFF, (ffurfiau ffeiliau) DVD, DVD RAM, Cadi HD digidol cludadwy, TÂP, DAT, CD a HD Allanol
- sut i archifo deunydd wedi'i recordio
- egwyddorion iechyd a diogelwch o ran gwrando'n ddiogel gan gynnwys trefniadau diogelu i atal colli clyw