Paratoi cyfarpar a deunydd ar gyfer sesiynau recordio

URN: CCSMT4
Sectorau Busnes (Suites): Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi cyfarpar a deunydd ar gyfer sesiynau recordio aml-drac. Mae'n bwysig gofalu bod y cyfarpar wedi'i osod a bod unrhyw ddeunydd wedi'i archifo eisoes ar gael er mwyn gwneud unrhyw addasiadau neu gyflawni unrhyw waith newydd arno. Wedi ichi gwblhau'r sesiynau recordio, bydd angen gofalu eich bod yn archifo'r deunydd recordio'n gywir a chofnodi manylion am y gosodiadau a chynlluniau ar gyfer unrhyw sesiynau recordio cysylltiedig yn y dyfodol.  

Mae hyn yn cynnwys gwirio gosodiad cyfarpar, cynnal gwaith trwsio sylfaenol ac archebu cyfarpar ychwanegol, adfer deunydd wedi'i archifo, cyfarpar dyblygu a recordio, cynllun a gosodiad offerynnau, defnyddio cymysgeddau stereo gan ddefnyddio deunydd wedi'i archifo a throsglwyddo asedau a chyflawniadau i beirianwyr stiwdio eraill neu eu derbyn gan beirianwyr stiwdio eraill.  

Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio, peirianwyr golygu, peirianwyr meistroli, peirianwyr cymysgu a rhaglenwyr sy'n paratoi cyfarpar a deunyddiau ar gyfer sesiynau recordio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwirio bod cynllun a gosodiad yr offerynnau a'r cyfarpar yn cydymffurfio gyda manylion y sesiynau blaenorol perthnasol
  2. adnabod diffygion gyda chyfarpar cyn eu defnyddio

  3. trwsio eitemau diffygiol rydych yn arbenigo ynddyn nhw ac ymhen graddfeydd amser y sesiynau recordio

  4. labelu ac amnewid eitemau diffygiol nad oes modd eu trwsio yn unol â'r gweithdrefnau

  5. archebu nwyddau ychwanegol gofynnol yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol 

  6. cofnodi, adrodd am a rheoli diffygion yn unol â'r gweithdrefnau

  7. cynnig manylion llawn am ddeunydd wedi'i archifo pan fo'n briodol ar gyfer sesiynau recordio

  8. rheoli gwybodaeth wedi'i archifo yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol

  9. cynhyrchu a monitro cymysgeddau stereo o sesiynau wedi'u hadalw ar adegau priodol

  10. llunio cofnodion manwl am gyfryngau a chynnwys sesiynau recordio sydd angen ei archifo

  11. cofnodi manylion cywir am gynllun a gosodiad cyfarpar ac offerynnau gan ddefnyddio technegau labelu wedi'u cymeradwyo gan y diwydiant

  12. archifo gosodiadau perthnasol o ddesgiau a'r cyfarpar cysylltiedig yn ystod y broses cymysgu

  13. cadw manylion am gynllun a gosodiad cyfarpar ac offerynnau lle mae modd i bobl eraill fanteisio arnyn nhw pan fo'u hangen

  14. labelu a recordio cymysgeddau stereo o sesiynau wedi'u hadalw yn unol â'r gofynion cyfundrefnol  

  15. cyflwyno'r manylion llawn am asedau a chyflawniadau i beirianwyr stiwdio eraill neu eu derbyn gan beirianwyr stiwdio eraill wrth i'r sesiynau recordio ddatblygu   

  16. ail-osod a thacluso'r stiwdio wedi ichi gwblhau'r sesiynau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gwybodaeth yn ymwneud â sain y sesiynau recordio aml-drac
  2. sut i adnabod gwybodaeth cydamseru
  3. cofnodion cyflawn gyda dyddiad arnyn nhw o'r cyfryngau a'r cynnwys gafodd eu defnyddio yn y sesiynau recordio
  4. pwysigrwydd rhoi gwybod i aelodau'r tîm am unrhyw ddiffygion gyda'r cyfarpar
  5. pwysigrwydd gweithdrefnau cofnodi diffygion
  6. labelu eitemau diffygiol yn eglur
  7. gweithdrefnau ar gyfer archebu nwyddau ychwanegol
  8. yr wybodaeth angenrheidiol i adalw sesiynau recordio aml-drac
  9. sut i asesu gwybodaeth cydamseru er mwyn adalw sesiynau recordio aml-drac yn gyfan gwbl
  10. sut i greu gwahanol ffurfiau o gymysgeddau stereo gan ddefnyddio deunydd wedi'i archifo
  11. pwysigrwydd cofnodi a labelu cymysgeddau stereo, wedi'u cynhyrchu gyda deunydd wedi'i archifo, yn gywir 
  12. dulliau ar gyfer cofnodi cynllun a gosodiad cyfarpar ac offerynnau gan gynnwys lluniau a diagramau 

y rhesymau dros gofnodi cynllun a gosodiad cyfarpar ac offerynnau ac amgylchiadau a phryd mae’n briodol  ichi wneud hynny

  1. sut i ddefnyddio systemau labelu AES/SPARS
  2. sut i gwblhau taflen draciau ar gyfer recordio sain aml-drac
  3. lleoliadau addas i archifo data adalw electronig a chyfeirnod o'r daflen draciau.
  4. gwybodaeth ofynnol i gyflwyno asedau a chyflawniadau i beirianwyr stiwdio eraill neu eu derbyn gan beirianwyr stiwdio eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSMT26

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianwyr Meistroli, Peirianwyr Recordio, Cynhyrchwyr Recordio, Peirianwyr Cymysgu, Peirianwyr Cynorthwyol, Peirianwyr Darllediadau tu allan / ôl gynhyrchu, Gweithredwyr Tapiau, Cyfansoddwyr Cerddoriaeth Ffilm, Ysgrifenwyr , Rhaglenwyr, Peirianwyr Golygu

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Paratoi; Cyfarpar; Deunydd; Sesiwn Recordio; Sain; Cerddoriaeth; Recordio Sain; Technoleg Cerddoriaeth