Cynhyrchu allbynnau sain i fodloni’r gofynion creadigol
URN: CCSMT14
Sectorau Busnes (Suites): Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu allbynnau sain i fodloni gofynion creadigol. Fe all allbynnau sain fod ar gyfer cerddoriaeth, fideos, ffilmiau, llwyfannau ffrydio, gemau cyfrifiadur, ôl gynhyrchu neu ddefnyddiau eraill.
Mae'n ymwneud ag egluro gofynion, cynhyrchu traciau prawf, datrys problemau, cynhyrchu allbynnau sy'n briodol ar gyfer ffurfiau cynhyrchu a defnyddio ffurfiau ffilm priodol.
Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio, peirianwyr golygu, peirianwyr meistroli, peirianwyr cymysgu a rhaglenwyr sy'n cynhyrchu allbynnau sain er mwyn bodloni gofynion creadigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- egluro'r gofynion ar gyfer allbynnau sain gyda'r bobl briodol
- adnabod agweddau allweddol o ran ffurf cynhyrchu arfaethedig ar gyfer y cynnyrch terfynol a fydd yn effeithio ar eich gwaith
- cysylltu gyda'r bobl sydd ynghlwm â chamau cyfredol y gwaith a chamau'r gwaith yn y dyfodol yn barhaus
- cynhyrchu traciau prawf yn ystod camau allweddol o'r gwaith
- rhoi trefniadau diogelu ar waith i atal colli clyw yn unol â gofynion diogelwch wrth ddefnyddio cyfarpar
- derbyn adborth gan bobl briodol ynghylch cynnwys y traciau prawf a chyfeiriad y gwaith
- adnabod a datrys problemau gydag allbynnau sain hyd eithaf eich awdurdod cyn gynted ag y maen nhw'n digwydd
- cyfeirio problemau na allwch chi eu datrys at y bobl briodol
- cynhyrchu allbynnau sain sy'n briodol ar gyfer y ffurf darparu a bodloni gofynion creadigol y cytunwyd arnyn nhw
- cynhyrchu ffeiliau ar ffurfiau priodol ar gyfer eu defnyddio'n barhaus
- cadw, archifo a throsglwyddo ffeiliau sain yn unol â phrosesau cyfundrefnol
- dogfennu a labelu ffeiliau gan ddefnyddio systemau labelu sydd wedi'u cymeradwyo gan y diwydiant
- derbyn cymeradwyaeth ar gyfer allbynnau sain gan y bobl briodol
- tacluso, ail-osod a datgysylltu'r holl gyfarpar pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ffynonellau gwybodaeth am ofynion ar gyfer allbynnau sain gan gynnwys cleientiaid, cydweithwyr a rheolwyr
- mathau o ffurfiau darparu a'u gofynion penodol fel cerddoriaeth, fideos, ffilmiau, llwyfannau ffrydio, gemau cyfrifiadur ac ôl gynhyrchu
- pwy sydd ynghlwm â chamau cyfredol y gwaith a'r camau yn y dyfodol gan gynnwys cydweithwyr a rhaglenwyr allanol
- diben traciau prawf a sut a phryd i'w cynhyrchu
- problemau cyffredin a all godi gyda chyfarpar, meddalwedd ac allbynnau sain
- terfynau eich awdurdod ar gyfer datrys problemau
- y llinellau rheoli a gyda phwy ddylech chi ddatrys y problemau
- ffurfiau ffeiliau ar gyfer y ffurfiau darparu rydych yn ymwneud gyda nhw
- gofynion derbyn cymeradwyaeth a'r goblygiadau ynghlwm â pheidio â derbyn cymeradwyaeth
- egwyddorion iechyd a diogelwch o ran gwrando'n ddiogel gan gynnwys trefniadau diogelu i atal colli clyw
- safonau ynghylch uchder sain y darllediad
- systemau labelu wedi'u cymeradwyo gan y diwydiant
- prosesau cyfundrefnol ar gyfer cadw ac archifo ffeiliau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative and Cultural Skills
URN gwreiddiol
CCSMT32
Galwedigaethau Perthnasol
Peiriannydd Stiwdio , Rheolwyr Stiwdio, Peirianwyr Meistroli, Peirianwyr Recordio, Peirianwyr Cymysgu, Peirianwyr Cynorthwyol, Peirianwyr Darllediadau tu allan / ôl gynhyrchu, Gweithredwyr Tapiau, Cyfansoddwyr, Ysgrifenwyr , Cyd- ysgrifenwyr, Artistiaid, Rolau cefnogaeth dechnegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth, Peirianwyr Sain Fyw , Dylunwyr Acwstig, Dylunwyr adeiladau acwsteg , Rhaglenwyr, Peirianwyr Golygu, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Ail-gymysgwyr, Rheolwyr Cyfleusterau, Peirianwyr Foley , Cyfansoddwr canigau (Jingles)
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Cerddoriaeth; Fideo; Ffilm; Allbynnau sain; Recordio Sain; Cerddoriaeth; Sain; Gofynion creadigol ; Technoleg Cerddoriaeth