Golygu deunydd sain i fodloni gofynion creadigol

URN: CCSMT10
Sectorau Busnes (Suites): Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â golygu deunydd ffynhonnell wedi'i recordio i fodloni'r gofynion creadigol. Mae'n debyg y bydd hyn yn ymwneud â cherddoriaeth ond fe allai fod yn berthnasol i ffynonellau sain eraill. Bydd mae'n debyg yn ymdrin â deunydd sydd wedi'i recordio yn ystod sawl cynnig.

Mae'r safon hon yn ymwneud ag adnabod gofynion a disgwyliadau golygu, dewis rhannau o sain sydd angen eu golygu, defnyddio technegau golygu cywir, cynnal gweithdrefnau i osgoi dirywiad a dogfennu, labelu, cadw ac archifo ffeiliau.

Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr recordio, peirianwyr golygu, peirianwyr meistroli, peirianwyr cymysgu a rhaglenwyr sy'n golygu deunydd sain i fodloni'r cyfarwyddyd creadigol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. casglu gwybodaeth gan ffynonellau perthnasol ynghylch gofynion a disgwyliadau golygu
  2. mesur yr amser cyffredinol ac asesu cynnwys y cynigion sain gan ystyried y gofynion a'r disgwyliadau  
  3. dewis rhannau o'r ystod o gynigion sydd ar gael a fydd yn cyflawni'r canlyniadau gofynnol pan gân nhw eu golygu
  4. adnabod rhannau o'r sain sydd angen eu golygu neu eu mireinio
  5. defnyddio atebiadau golygu sy'n datrys problemau a gwella'r sain
  6. dileu sŵn di-angen ac addasu gwallau amseru, cyflymder a thempo gan ddefnyddio technegau golygu manwl gywir
  7. defnyddio systemau golygu digidol ar y cyfrifiadur, dewislenni a pharamedrau yn unol â chyfarwyddiadau'r datblygwyr meddalwedd

creu a chynhyrchu cywiriadau a gwelliannau i ffeiliau sain heb unrhyw ddirywiad amlwg yn y deunyddiau

  1. gofalu nad ydy'r sain yn dirywio neu'n diraddio wrth ichi ei golygu, trawsyrru a'i mewnforio
  2. gosod y fersiwn derfynol gyda'i gilydd gan ddefnyddio gwahanol gynigion sy'n bodloni'r fanyleb ofynnol o ran ansawdd ac amseru
  3. datrys problemau gyda'r cyfarpar a'r allbynnau rydych yn gyfrifol amdanyn nhw pan maen nhw'n digwydd
  4. cyfeirio unrhyw broblemau na allwch chi eu datrys i'r bobl briodol heb oedi
  5. cyfathrebu gyda'r bobl berthnasol ynghylch y cynnydd
  6. dogfennu a labelu ffeiliau gan ddefnyddio systemau sydd wedi'u cymeradwyo gan y diwydiant
  7. cadw ac archifo golygiadau fel ffeiliau sain newydd ar y cyd â'r copi sain gwreiddiol 
  8. gofalu eich bod yn cydymffurfio gyda'r ymarfer cymeradwy fel bod modd i eraill ddefnyddio'ch recordiad heb orfod cyflawni unrhyw waith neu baratoadau pellach arno
  9. gofalu eich bod yn adalw ac archifo golygiadau'n ddiogel

ail-osod a thacluso’r cyfarpar pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ffynonellau gwybodaeth ar ofynion golygu gan gynnwys y cyfarwyddyd creadigol

  2. sut i weithredu a defnyddio nodweddion golygu ar raglen golygu digidol ar gyfrifiadur

  3. ffyrdd y caiff paramedrau golygu digidol eu defnyddio 

  4. sut i baratoi a rheoli dewislenni a pharamedrau golygu digidol

  5. ffurfiau mono, stereo ac aml-sianel eraill

  6. pwysigrwydd cadw cynnwys sain gwreiddiol  

  7. sut i ddefnyddio sgiliau gwrando beirniadol i adnabod golygiadau gofynnol

  8. sut i ddefnyddio elfennau priodol o drefniant cerddorol yn eich gwaith eich hun

  9. sut i asesu ansawdd, amseru, cyflymder a thempo

  10. sut i adnabod cyfyngau, cordiau, graddfeydd a dilyniannau cord gaiff eu defnyddio'n gyffredin wrth ymwneud ag arddulliau penodol

  11. problemau golygu cyffredin cysylltiedig gyda sawl senario golygu

  12. datrysiadau golygu sylfaenol i wella a thrwsio deunydd sain a dileu problemau gan gynnwys pesychu a thisian

  13. gweithdrefnau ar gyfer gofalu nad ydy deunydd sain yn dirywio neu'n diraddio

  14. y berthynas rhwng cadw amser a thempo

  15. pwy i gyfathrebu gyda nhw a sut a phryd i wneud hynny gan gynnwys perfformwyr, cydweithwyr a goruchwylwyr

  16. y gwahaniaethau rhwng golygu cynnwys byw a phan mae yna sawl cynnig

  17. diben, a sut i gydosod, mân olygiadau drwm ac offerynnau taro i gyflwyno amseru perffaith o'r recordiad gwreiddiol

  18. sut i gadw cynnwys wedi'i olygu a ffeiliau DAW yn eu cyflwr gwreiddiol, gan gynnwys defnyddio BWAV, WAV, AIFF, (ffurfiau ffeiliau) DVD, DVD RAM, CADI HD Digidol cludadwy, TAPE, DAT, CD, HD Allanol

  19. sut i adfer a gwirio deunydd wedi'i olygu

  20. sut i ddefnyddio dewislenni a pharamedrau i drosglwyddo a mewnforio sain

ymarfer cymeradwy yn gysylltiedig â thechnegau  golygu, ansawdd allbynnau a dulliau archifo fel bod modd i eraill fanteisio ar eich recordiad heb unrhyw waith neu baratoadau pellach


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSMT9

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianwyr Recordio, Cynhyrchwyr Recordio, Peirianwyr Cymysgu, Peirianwyr Cynorthwyol, Peirianwyr Darllediadau tu allan / ôl gynhyrchu, Gweithredwyr Tapiau, Rhaglenwyr, Peirianwyr Golygu

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Golygu; Deunydd sain; Gofynion creadigol; Sain; Cerddoriaeth; Recordio Sain ; Technoleg Cerddoriaeth