Rheoli disgwyliadau gyda'r unigolion, y grwpiau, y cyllidwyr a’r partneriaid sy'n cymryd rhan

URN: CCSDL8
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2011

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli disgwyliadau'r bobl sy'n cymryd rhan unwaith y bydd y rhaglen ddawns wedi'i dylunio neu'n cael ei dylunio. Mae llawer o ddisgwyliadau i'w rheoli gan fod gan bawb syniadau gwahanol am ystyr dawns felly gallai fod gofyn i chi weithredu fel eiriolydd dros eich arddull ddawns a'r ffordd y byddwch chi'n ei chyflwyno.

Yn ogystal, bydd disgwyliadau unigol ynghylch canlyniadau, er enghraifft, gallai cyfranogwyr sy'n ddechreuwyr fod â disgwyliadau afrealistig ynghylch beth gall eu cyrff wneud, gall fod gan rieni ddisgwyliadau afrealistig ynghylch beth gall eu plant gyflawni, a gall fod gan raglennydd ddisgwyliadau afrealistig ynghylch nifer y bobl y gellir eu cyrraedd.

Bydd angen i’ch cyfranogwyr ddeall eich arddull ddawns a'ch proses ddarparu, ond gall fod angen i eraill wneud hynny hefyd, fel rhieni, gweithwyr cymorth, cyllidwyr neu sefydliadau partner fel mannau cynnal. Po gliriaf y gallwch fod yn y cam rhychwantu hwn, mwyaf o ymddiriedaeth fydd yn datblygu rhyngoch a'ch grwpiau a’ch cyllidwyr posibl.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​​​nodi a chyd-drafod adnoddau dynol ac ariannol ar gyfer y rhaglen ddawns i'ch galluogi chi i reoli ei chwmpas gyda'ch rhanddeiliaid 
  2. rheoli sefydlu rhaglen ddawns sy'n diwallu anghenion y gwahanol randdeiliaid
  3. rheoli materion cyllidebol, contractiol, cyfreithiol a hawlfraint sy'n berthnasol i chi a'ch rhaglen ddawns
  4. cyfathrebu'n gynhwysol ac effeithiol ar draws y grwpiau oedran a gallu er mwyn pennu a rheoli disgwyliadau cyfranogwyr ac unigolion neu sefydliadau partner

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​​pwysigrwydd rhannu eich sgiliau artistig, hwyluso a chyd-drafod gyda'ch cyfranogwyr dawns a'ch sefydliadau partner
  2. sut mae rheoli eich ffi, eich contractau, eich cyllidebau a materion perthnasol o ran y gyfraith neu hawlfraint 
  3. ystyr ymarfer proffesiynol a sut y byddwch yn ei ddarparu
  4. sut mae cyfathrebu yn bersonol ac ysbrydoli unigolion a grwpiau ynghylch dyluniad, proses a gwerthoedd eich rhaglen ddawns
  5. pwysigrwydd cyflwyno canlyniadau realistig ar gyfer eich rhaglen ddawns
  6. pwysigrwydd bod yn ymwybodol o'ch sgiliau er mwyn i chi allu bod yn onest gyda grwpiau a sefydliadau partner o ran gwybod pa gymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch er mwyn darparu rhaglen ddawns
  7. sut mae cynnwys ac ysgogi unigolion a sefydliadau partner i'ch cefnogi yn achos bylchau o ran sgiliau neu adnoddau, a datblygu eu rôl
  8. p​wysigrwydd darparu llwybr cyflawniad realistig i'r cyfranogwyr

Cwmpas/ystod

​​Gweithwyr cymorth - gweithiwr gofal proffesiynol neu gynorthwy-ydd dysgu sy'n darparu cymorth arbenigol neu brentis sy'n cysgodi eich sesiynau.

Cydweithwyr - artistiaid sy'n cydweithredu a all fod yn rhannu’r arweinyddiaeth gyda chi ac sy'n cyfrannu eu sgiliau dawns neu ffurfiau celfyddydol eraill

Unigolion a sefydliadau partner yw'r bobl sy'n gweithio gyda chi sydd naill ai yn rhoi eu hamser i gefnogi eich sesiynau yn ystod y camau cynllunio a gwerthuso a/neu'n cyfrannu arian er mwyn i'r sesiynau allu digwydd. Gallent helpu i baratoi'r man cynnal, marchnata ar eich rhan, eich helpu i fesur yr effaith a gewch neu gyllido eich sesiynau.

Rhaglen ddawns - gall fod yn unrhyw gyfres o sesiynau, yn rhaglen/maes llafur tymor neu flwyddyn, yn gyfnod preswyl dwys unwaith yn unig, neu’n gyfuniad o'r rhain i gyd.

Ymarfer proffesiynol - mae hyn yn cyfeirio at eich cyfrifoldeb chi am eich ymddygiad, a gweithio mewn modd moesegol a thryloyw. Mae'n berthnasol p'un a ydych yn ystyried eich hun yn weithiwr gwirfoddol, yn amatur neu'n weithiwr proffesiynol cyflogedig​.


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol

URN gwreiddiol

CCSDL8

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Arweinyddiaeth ddawns, rheoli disgwyliadau, cyfranogi mewn dawns, dawns cymunedol