Dylunio rhaglenni gwaith dawns sy'n briodol ar gyfer grwpiau ac unigolion penodol

URN: CCSDL7
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2011

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu cyfleu’r rôl y byddwch yn ei chyflawni a'r gefnogaeth y byddwch yn disgwyl ei chael gan randdeiliaid yn gyfnewid am hynny i sicrhau bod dyluniad rhaglen ddawns yn addas i'r diben.

Mae'r safon hon yn sicrhau eich bod chi'n chwarae rhan weithredol o ran creu'r sefyllfaoedd gwaith y byddwch yn camu iddynt. Rhaid i ddyluniad y rhaglen fod yn glir o ran ei bwrpas a rhaid iddo baru’r sgiliau sydd gennych â'r defnyddiwr terfynol.

Gall disgrifio'r safon hon fel enghraifft o rychwantu prosiect fod yn ddefnyddiol. Mae hwn yn derm cyffredin ym myd busnes sy'n golygu profi syniadau yn erbyn yr adnoddau dynol ac ariannol sydd ar gael, er mwyn cael gwybod a yw'r syniad yn realistig er mwyn cyflawni dymuniad y cwsmer, ac eto’n rhoi digon o arian i'r busnes i'w gyflawni.

Gall y safon hon fod yn fwy manwl i rai arweinyddion dawns na'i gilydd, yn dibynnu ar gymhlethdod y cyd-destun y byddant yn gweithio ynddo. Byddai cyd-destun cymhleth yn cynnwys nifer o newidynnau, er enghraifft, cyllidwyr lluosog, perfformiad dawns awyr agored, bod yn rhan o ŵyl, arwain dawns mewn lleoliadau addysg, iechyd neu gyfiawnder troseddol, neu weithio fel rhan o dîm artistig.

Petai llai o newidynnau megis un arweinydd, un lleoliad, ar adeg benodedig gyda'r un grŵp heb fod angen gweithwyr cymorth, a chyllid wedi'i reoli'n breifat, byddai’r safon hon yn dal yn hanfodol, ond byddai lefel ofynnol y sgiliau trafod telerau yn is.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​​rhychwantu dyluniad rhaglen ddawns sy'n addas i'r diben o'ch safbwynt chi, eich cyfranogwyr a'ch rhanddeiliaid 
  2. paratoi man ymarfer diogel ar gyfer y sesiynau y byddwch yn eu harwain  
  3. cyd-drafod eich rôl yn y rhaglen a disgrifio'r amodau na allwch gyfaddawdu yn eu cylch os ydych am gyflawni eich addewidion
  4. nodi pa ganiatâd a materion cyfreithiol y gall fod angen i chi eu hystyried wrth ddylunio eich rhaglen ddawns 
  5. cynnwys artistiaid neu staff cynorthwyol yn eich sesiynau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​​sut mae cymhwyso eich sgiliau arwain dawns fel eu bod yn addas i'r diben, i chi ac i'ch grwpiau/cyfranogwyr
  2. yr amgylcheddau gwaith rydych chi'n bwriadu gweithio ynddynt a'r wybodaeth y bydd angen i chi ei rhoi iddyn nhw a'i chael ganddyn nhw
  3. effaith newid unrhyw agwedd ar y dyluniad a gynigiwyd, er mwyn gallu dadlau dros ail-drafod telerau er enghraifft, ffi, amser, gweithwyr cymorth neu nifer y grwpiau
  4. datblygu ymwybyddiaeth o'r rôl y byddwch chi'n ei chymryd fel arweinydd dawns o ran yr unigolion a'r sefydliadau sy'n cefnogi eich rhaglen ddawns
  5. pwysigrwydd y seilwaith cyfreithiol perthnasol ehangach sy'n ofynnol i ddarparu eich rhaglen ddawns, gan gynnwys unrhyw yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, caniatâd diogelu data i gofnodi'r rhaglen, caniatâd i weithio gyda grwpiau penodol o bobl

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gall rhaglen ddawns fod yn unrhyw gyfres o sesiynau, yn rhaglen/maes llafur tymor neu flwyddyn, yn gyfnod preswyl dwys unwaith yn unig, neu'n gyfuniad o'r rhain i gyd.
*
Rhanddeiliaid
* yw'r bobl sydd â budd yn y prosiect. Y rhain, yn aml, yw'r bobl sy'n darparu arian ar gyfer eich prosiect neu gymorth ymarferol megis man cynnal neu adnoddau staff.

Ystyr addas i'r diben yw diwallu gofynion, anghenion neu ddyheadau'r cwsmer.* * Dylai ddiwallu eich gofynion chi hefyd. Bu llawer o brosiectau cymunedol yn ddibynnol ar fuddsoddiad amser ar ben yr hyn y telir pobl i'w wneud. Dylech fod ag ymwybyddiaeth glir a chynyddol o'r adegau pan fydd pobl yn buddsoddi amser ar ben eu cyflog er mwyn i chi allu dewis p'un a allwch fforddio gwneud hyn neu a oes angen newid nodau'r prosiect.

Mae cwmpas yn cyfeirio at bennu terfynau eich rhaglen ddawns; er enghraifft, gosod terfyn ar nifer y bobl all gymryd rhan mewn sesiwn ddawns, cynnal sesiynau mewn mannau lle na fydd dim yn torri ar draws y gwaith yn unig, gweithio gyda cherddor ac ati. Bydd agweddau ar gwmpas y gwaith y byddwch yn gwrthod cyfaddawdu arnynt, ac agweddau y byddwch yn barod i'w trafod, yn dibynnu ar nodau'r rhaglen a'r arian a'r amser sydd ar gael iddi.


Dolenni I NOS Eraill

Pwyntiau cyfeirio defnyddiol ar gyfer y safon hon o gyfresi SGC eraill:

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol - Gweithio ar eich liwt eich hun yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol​


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol

URN gwreiddiol

CCSDL7

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio

Cod SOC


Geiriau Allweddol

arweinyddiaeth ddawns, rhaglenni dawns, dylunio dawns