Defnyddio gwahanol gyfryngau a dulliau i gyfathrebu â'ch marchnad darged

URN: CCSDL6
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2011

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu cyfathrebu a chyflwyno eich hun yn effeithiol i'ch marchnadoedd targed.

Gallai fod yn bwysig i'r bobl rydych am eu cyrraedd fod gennych bresenoldeb ar-lein, gallai fod yn bwysig i eraill fod gennych ffeil y gallant bori ynddi sy'n cynnwys tystysgrifau a lluniau o'ch gwaith.

Mae'n bosibl y bydd ansawdd uchel gwaith dylunio ac argraffu yn bwysicach yn eich cyflwyniadau os ydych am greu gweithiau celfyddyd dawns gyda phobl a'ch bod yn cyflwyno syniadau i'r sector masnachol neu i gyllidwyr y celfyddydau. Gallech roi llai o bwyslais ar hyn os ydych, er enghraifft, yn ennyn diddordeb y gymuned leol mewn sesiynau dawnsio gwerin.



Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​​cyflwyno'ch hun i wahanol farchnadoedd targed mewn gwahanol ffyrdd 
  2. sicrhau caniatâd i ddefnyddio lluniau o bobl wrth farchnata 
  3. gosod eich cynnig o ran dawns gerbron eich marchnad mewn mannau sy'n berthnasol iddi

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​​amrywiaeth o ffyrdd o gyfathrebu am eich gwaith 
  2. y rôl y gall technoleg ei chwarae o ran eich helpu i hyrwyddo'ch gwaith 
  3. sicrhau cydsyniad priodol i ddefnyddio enghreifftiau gweledol wedi'u recordio o’ch sesiynau dawns
  4. moeseg defnyddio rhwydweithiau a chyfryngau cymdeithasol priodol i rannu eich gwaith
  5. sut mae cynnal ymchwil i brofi'ch marchnad darged a darganfod sut y byddai’n ffafrio cael mynediad i'ch gwaith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Cynnig  - mae'r term "cynnig" yn un a ddefnyddir yn gyffredin ym myd busnes i olygu eich cynnyrch neu eich gwasanaeth sy'n cael ei gyfathrebu'n glir er mwyn i'ch cwsmeriaid ei ddeall. Fe'i defnyddir yn yr un modd yma, drwy werthuso eich sgiliau eich hun a'u mynegi ar ffurf yr hyn y gallwch ei gynnig, fydd yn golygu eich bod chi ac eraill yn gallu pennu eu gwerth a byddwch yn gallu marchnata eich gwasanaeth yn hyderus.
*
Marchnad darged
* - gallai'r farchnad fod yn gyfranogwyr rydych chi'n cysylltu'n uniongyrchol â nhw, sy'n gymuned a nodwyd gennych fel un a allai groesawu'r hyn rydych chi'n ei gynnig a gellid ei diffinio, er enghraifft, yn ôl lleoliad, diddordeb, diwylliant neu sefydliad. Fel arall, gallai eich marchnad darged fod yn gyflogwyr, yn gyllidwyr neu'n gomisiynwyr.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol

URN gwreiddiol

CCSDL6

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio

Cod SOC


Geiriau Allweddol

arweinyddiaeth ddawns, marchnata, hyrwyddo, portffolio