Adnabod, ymchwilio a deall eich marchnad
URN: CCSDL2
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2011
Trosolwg
Mae'r safon hon ym ymwneud â nodi'r sgiliau sy'n ofynnol i ddarparu dawns ar gyfer marchnad benodol er mwyn sicrhau bod eich gwaith yn effeithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi ffynonellau gwybodaeth perthnasol sy'n ymwneud â marchnad bosibl
- defnyddio gweithgareddau ymchwil priodol i gasglu gwybodaeth am farchnad bosibl
- nodi anghenion penodol marchnad bosibl ac ymateb iddynt wrth gynllunio rhaglen ddawns
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae nodi a lleoli marchnad darged ac ymchwilio iddi
- pwysigrwydd gwerthoedd, polisïau neu iaith sy'n berthnasol i gyfathrebu â'r farchnad a nodwyd
- anghenion eich marchnad darged
- pwysigrwydd ymchwilio i'r arddull/arddulliau dawns, dulliau cyflwyno, rolau a pherthnasoedd a systemau cyfathrebu a ddefnyddiwyd yn flaenorol gyda’r farchnad hon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae marchnad yn cyfeirio at sectorau o bobl rydych wedi’u nodi fel rhai y gallech weithio gyda nhw drwy baru eich sgiliau, ynghyd â'ch ymchwil, ag anghenion y bobl hyn.
Mae ymchwil yn cyfeirio at y gwahanol weithgareddau y gallech eu gwneud i gasglu gwybodaeth am eich marchnad. Gallai hyn gynnwys arsylwi grŵp posibl, adolygu dogfennau ysgrifenedig (adroddiadau, polisïau, erthyglau), trafod gyda sefydliadau neu gyfranogwyr posibl neu gynnal arolwg o ddata a/neu ystadegau.
Rhaglen ddawns - gall fod yn unrhyw gyfres o sesiynau, yn rhaglen/maes llafur tymor neu flwyddyn, yn gyfnod preswyl dwys unwaith yn unig, neu’n gyfuniad o'r rhain i gyd.
Dolenni I NOS Eraill
Pwyntiau cyfeirio defnyddiol ar gyfer y safon hon o gyfresi SGC eraill:
Y Gyfres Sgiliau Creadigol a Diwylliannol:
Gweithio ar eich liwt eich hun yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol:
FL2 Diffinio gweledigaeth ac amcanion eich gwaith ar eich liwt eich hun yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Ion 2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Creadigol a Diwylliannol
URN gwreiddiol
CCSDL2
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio
Cod SOC
Geiriau Allweddol
gwybodaeth am y farchnad, gweithio ar eich liwt eich hun, cystadleuaeth, ymchwil i'r farchnad; arweinyddiaeth ddawns