Ymgysylltu â grwpiau a'u rheoli drwy eich arweinyddiaeth ddawns mewn cyd-destun creadigol

URN: CCSDL13
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2011

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgysylltu â'ch cyfranogwyr yn eich sesiynau dawns a meddu ar y gallu i gymhwyso amryw o ddulliau arwain dawns sy'n cydbwyso anghenion dysgu unigolion a'r grŵp cyfan.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​​ysbrydoli pobl ac ymgysylltu â nhw ar lefel y gallant ei deall ac ymuno ynddi 
  2. cyflwyno disgwyliadau, ffiniau a chyfleoedd rhwng yr arweinydd, y cyfranogwyr, y tîm cefnogi a'r gweithgaredd, gan fod yn glir ynghylch y nodau a'r prosesau y byddwch yn eu defnyddio gyda'ch grwp
  3. defnyddio'ch gallu creadigol i gefnogi syniadau creadigol a dychmygus y cyfranogwyr yn eu dawns a rhoi eich arddull ddawns ar waith mewn ffyrdd priodol ar gyfer dysgu person-ganolog
  4. cyfathrebu'n glir gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu geiriol ac aneiriol fel bod y cyfranogwyr yn eich deall, gyda chymorth perthnasol i’ch hunan, lle bo angen hynny, er mwyn gweithio'n effeithiol
  5. cydnabod eich cydweithio ag eraill er mwyn cyflawni nodau'r rhaglen ddawns
  6. ystyried pob agwedd ar ddarparu'ch rhaglen er mwyn ei haddasu yn ôl y galw
  7. datblygu ymddiriedaeth, gwerthoedd a rennir a rolau clir trwy eich ymarfer gyda'r bobl rydych chi'n ymgysylltu â nhw
  8. gallu cefnogi cyfranogwyr i ddatblygu ansawdd eu symudiadau a'u harddull ddawns
  9. adnabod ac annog datblygiad y cyfranogwyr fel bod ganddynt amrywiaeth mwy datblygedig o sgiliau wrth ddawnsio
 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​​gwahanol strategaethau addysgu i hwyluso dulliau arwain y dysgu er mwyn i'ch cyfranogwyr ddatblygu'r wybodaeth gorfforol sydd ei hangen arnynt ar gyfer yr arddull ddawns dan sylw 
  2. sut mae datblygu awyrgylch cynhwysol i annog ymgysylltu creadigol 
  3. pwysigrwydd eich cyflwyniad proffesiynol a'ch gallu i dderbyn cyfrifoldeb am eich grwp
  4. egwyddorion dysgu person-ganolog
  5. deinameg grwpiau, gan roi sylw penodol i sut mae llwyddo i reoli cyflymder dysgu ac ymgysylltu gwahanol ar gyfer unigolion mewn grwp 
  6. sut mae defnyddio ymholi a'ch menter greadigol i roi eich arddull ddawns ar waith gyda gwahanol gymunedau
  7. dulliau o ddatblygu penderfyniadau ar y cyd wrth greu dawns gyda'ch gilydd 
  8. sut mae casglu, datblygu a saernïo syniadau dychmygus y cyfranogwyr i ddatblygu eu hymgysylltiad â’u dawns a'u hymholi beirniadol 
  9. pwysigrwydd siarad gydag unrhyw weithwyr cymorth sy'n cymryd rhan yn eich sesiynau a sicrhau eu bod yn deall eich nodau er mwyn iddynt eich helpu i'w cyflawni gyda'r grwp
  10. pwysigrwydd eich persona wrth arwain dawns gan ddefnyddio cyfarwyddiadau lleisiol clir ac ysbrydoli eich grwp trwy eich adborth
  11. iaith y corff a sut mae gwneud i bobl deimlo'n gyfforddus drwy eich ymddygiad geiriol a dieiriau
  12. sut mae gwella a gwerthuso profiad creadigol cyfranogwyr drwy gydweithio â gweithwyr cymorth
 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae dulliau arwain yn cyfeirio at unrhyw ddull addysgu neu greadigol sy’n ysgogi’r ymgysylltu a'r dysgu gorau mewn unigolyn

 
Gwybodaeth am y corff - rheoli'r corff â gwahanol symudiadau. Yn dibynnu ar arddull y ddawns bydd angen gwahanol fathau o ymwybyddiaeth ofodol a chorfforol er mwyn darparu a phrofi'r symudiad a'i gyfleu yn glir i bobl eraill. Yn aml, gall hyn fod yn fater o gyfleu syniad â'r corff lawn cymaint â dysgu arddull ddawns.

 
Arddull ddaw*ns* - mae'r term hwn yn cwmpasu'r arddulliau dawns niferus (y cyfeirir atynt hefyd fel genre, ffurfiau) sy'n bodoli, i enwi rhai enghreifftiau yn unig: dawnsio stryd, dawns o dde Asia, dawnsio gwerin, dawns pobl Affrica, bale, dawnsio anarddulliedig, ymarfer somatig, dawnsio cyfoes.

 
Gwahanol gymunedau - yn y cyd-destun hwn gall cymuned gyfeirio at bobl sy'n dod at ei gilydd mewn un man (ysbyty, ysgol, canolfan gymunedol) neu grŵp o unigolion sy’n dod ynghyd yn sgîl diddordeb a rennir

 
Gweithwyr cymorth - defnyddir y term yma i gyfeirio at berson yr ydych wedi nodi'n ffurfiol fod ganddynt rôl gefnogi yn eich sesiynau dawns. Er enghraifft, gallent fod yn brentis arweinydd dawns, yn weithiwr gofal proffesiynol sy'n cynorthwyo unigolyn penodol, yn gynorthwy-ydd dysgu neu’n athro, yn artist arall sy'n cydweithio â chi, yn ymchwilydd, yn werthuswr, yn rhiant neu’n wirfoddolwr.

 
Ystyr person-ganolog yma yw dull arwain sy’n ceisio creu amgylchedd dysgu sy'n adeiladu ar nodweddion a chryfderau presennol pob unigolyn ac yn eu hannog i archwilio dawns yn weithredol. 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol

URN gwreiddiol

CCSDL13

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Arweinyddiaeth ddawns, dawns gymunedol, creadigrwydd, cyfranogi mewn dawns