Arwain dawns yn ddiogel ac yn effeithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau eich bod yn gallu amddiffyn eich iechyd a’ch diogelwch eich hun a'ch cyfranogwyr er mwyn gallu darparu'r dysgu mwyaf effeithiol, gan roi ystyriaeth i holl brofiad y sesiwn ddawns, gan gynnwys diogelu cyn ac ar ôl y sesiwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi anghenion eich cyfranogwyr dawns a phenderfynu beth byddwch chi'n ei wneud i ddiwallu eu hanghenion yn y sesiwn/sesiynau
- saernïo sesiynau er mwyn cynnig darpariaeth ddiogel ac effeithiol i gyfranogwyr, gan amddiffyn eu llesiant corfforol ac emosiynol a phennu nodau priodol
- hwyluso amgylchedd dysgu diogel ac effeithiol sy'n gwneud i unigolion deimlo'n gyfforddus
- cynnal asesiad risg
- cynnwys gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi ymarfer diogel yn eich sesiynau dawns a'r tu allan iddynt
- derbyn cyfrifoldeb am gyflwyno'ch hun yn broffesiynol fel model rôl i'r grŵp
- pennu rheolau sylfaenol ynghylch cydraddoldeb, parch a'ch diogelwch chi a'r cyfranogwyr yn eich sesiynau dawns
- cyfathrebu'n glir a pharchus â'ch grŵp/grwpiau
- derbyn cyfrifoldeb am eich llesiant corfforol ac emosiynol fel model rôl ar gyfer eich grŵp/grwpiau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol, yn ddamcaniaethol a thrwy brofiad, o sut mae'r corff yn gweithio yng nghyswllt yr arddull ddawns rydych chi'n ei harwain, gan gynnwys agweddau pwysig ar ffisioleg ac anatomeg gymwysedig
- egwyddorion ymarfer dawns diogel ac effeithiol gan gynnwys agweddau allweddol ar faethiad, biomecaneg a rheoli ac atal anafiadau, ar ben yr uchod
- pwysigrwydd arsylwi'n fanwl ar gyfranogwyr i asesu ymarfer diogel ac effeithiol
- pwysigrwydd cyfathrebu'n glir â'r cyfranogwyr fel eu bod yn deall yr hyn rydych chi'n gofyn iddyn nhw ei wneud a sut y dylent ymddwyn mewn perthynas ag eraill yn eich sesiwn
- sut mae asesu, ymateb a bod yn hyblyg o ran anghenion presennol eich cyfranogwyr yn y sesiwn, gan roi ystyriaeth i'r wybodaeth flaenorol a gasglwyd wrth gynllunio'r sesiwn gyda'ch grwp
- sut mae ystyried llesiant emosiynol cyfranogwyr yn eich sesiwn a chyfeirio at rwydweithiau cymorth eraill lle bo hynny'n briodol
- sut mae bod yn ymwybodol o gydraddoldeb yn eich defnydd o iaith ac yn y modd y byddwch yn rhannu sylw unigol yn eich sesiynau dawns
- pwysigrwydd gwahaniaethu'r gweithgaredd er mwyn sicrhau cynhwysiad unigolion yn y grwp
- deinameg y grwp a phwysigrwydd ymateb â sesiwn/sesiynau sy'n briodol o ran eu cynnwys, hyd, dwyster, cyflymder a thasgau
- sut mae derbyn cyfrifoldeb am eich llesiant chi a llesiant eich cyfranogwyr tra byddwch yn eu harwain mewn sesiwn ddawns
- creu asesiad risg ar gyfer sesiwn ddawns gan ystyried yr amgylchedd, y tymheredd, nifer y bobl, gweithwyr cymorth, a pholisïau cyn, yn ystod ac ar ôl sesiynau
- cyfrifoldebau moesegol, cyfreithiol a phroffesiynol mewn amgylchedd dawns
- sut mae ymddwyn a chyflwyno'ch hun yn broffesiynol i'r grwp
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Pwyntiau cyfeirio defnyddiol ar gyfer y safon hon o gyfresi SGC eraill:
Cyngor Sgiliau Sector: Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion
Cyfres: Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Bydd y gyfres gyfan o ddiddordeb i bobl sy'n gweithio gyda phobl ifanc ond bydd y safonau canlynol yn dangos beth welwch chi yno:
STL34 Cefnogi disgyblion dawnus a thalentog
STL38 Cefnogi plant ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig a'u teuluoedd (CCLD 321)
STL39 Cefnogi disgyblion ag anghenion cyfathrebu a rhyngweithio STL41 Cefnogi disgyblion ag anghenion ymddygiad, datblygiad emosiynol a chymdeithasol
STL54 Cynllunio a chefnogi chwarae hunan-gyfeiriedig (PW9)