Annog cysylltiad a chydweithio â thimau cefnogi

URN: CCSDL11
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2011

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud ag annog cydweithio â thimau cefnogi. Bydd hon yn fwyaf perthnasol i arweinwyr dawns sy'n darparu rhaglenni dawns mewn gwahanol leoliadau neu gyda phobl sydd ag angen cymorth arbenigol ychwanegol i gymryd rhan mewn dawns.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​​cydweithio ag arbenigwyr a ddewiswyd megis cydarweinwyr tîm artistig, a derbyn chymorth, er enghraifft, gan weithwyr iechyd, ffisiotherapyddion, gweithwyr cymorth dysgu er mwyn i'r rhaglen ddawns gael yr effaith fwyaf posibl
  2. rheoli adnoddau i gefnogi'r rhaglen
  3. ysbrydoli ac ysgogi pobl, p’un a ydynt yn staff cyflogedig neu'n wirfoddolwyr, i gefnogi'r rhaglen 
 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​​​pwysigrwydd bod yn glir ynghylch eich rôl eich hun a'r cymorth mae arnoch ei angen gan eraill ar gyfer y rhaglen ddawns benodol rydych wedi’i dylunio
  2. sut mae ysgogi pobl ac ysbrydoli timau cefnogi, gan gynnwys staff cymorth cyflogedig neu wirfoddolwyr, i gymryd rhan yn eich rhaglen ddawns
  3. sut mae rheoli'r adnoddau dynol ac ariannol sydd ar gael i chi gan ysgogi cefnogaeth ymarferol lle bo hynny'n bosibl
  4. pwysigrwydd ymarfer ymatblyg, sef gwerthuso’r prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen a sut gallwch chi newid dyluniad rhaglen i gydweddu â chryfderau'r grwp neu'r tîm cefnogi wrth iddynt ddod i’r amlwg

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Yn y safon hon, mae ymarfer adfyfyriol yn cyfeirio at eich gwaith meddwl am y sesiwn ar ôl ei darparu a sut bydd gwerthuso’r sesiwn yn llywio eich blaengynllunio

Yn y safon hon, mae ymarfer ymatblyg yn cyfeirio at y gwaith meddwl a'r penderfyniadau a wnewch yn ystod eich sesiynau neu gyfarfodydd o ganlyniad i werthuso eich dull darparu gyda'ch cyfranogwyr tra byddwch yn y sesiwn

 

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol

URN gwreiddiol

CCSDL11

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio

Cod SOC


Geiriau Allweddol

arweinyddiaeth ddawns, dawns cymunedol, cydweithio, gwaith tîm