Gwerthuso a chyfathrebu eich sgiliau wrth arwain dawns

URN: CCSDL1
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2011

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso a chyfathrebu eich sgiliau wrth arwain dawns ac unrhyw brofiadau ategol a all fod yn fanteisiol ar gyfer gweithio gyda phobl benodol neu mewn mannau penodol. Mae angen cymorth ar gyflogwyr a chyfranogwyr i ddeall yr hyn y gallwch ei gynnig iddynt h.y. yr hyn rydych chi eich hun yn ei gynnig o ran dawns. Mae hunanymwybyddiaeth ac arfarniad gonest o'ch sgiliau fel arweinydd dawns yn hanfodol er mwyn sicrhau eich bod yn marchnata eich hun yn fanwl-gywir. Yn achos arweinwyr dawns mewn ysgol breifat gallai rhieni fod ymhlith y bobl y dylech chi allu cyfathrebu â nhw. Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i artistiaid dawns sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain mewn nifer o leoliadau gyfathrebu ag amrywiaeth o bobl a sefydliadau gan gynnwys asiantaeth ddawns, awdurdod lleol neu gyllidwr arall, cyfranogwr, rhiant, gweithiwr addysg neu iechyd.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cyfleu i eraill eich sgiliau a'ch profiad o arwain gweithgareddau dawns 2. nodi eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun 3. disgrifio sut a pham rydych chi eisiau arwain dawns gyda grŵpiau penodol o bobl a/neu mewn mannau penodol​

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​​pwysigrwydd gwerthuso eich sgiliau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, meini prawf a chyfeiriadau 
  2. y gwahaniaeth rhwng "arwain" dawns a "hyfforddi" dawns
  3. sut mae adnabod nodweddion ymarfer effeithiol wrth arwain dawns 
  4. dulliau o nodi lefel eich sgiliau o ran nodweddion cydnabyddedig ymarfer diogel ac effeithiol wrth arwain dawns
  5. pwysigrwydd sgiliau trosglwyddadwy a all eich paratoi i arwain dawns gyda grwpiau penodol o bobl a/neu mewn mannau penodol
 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Arwain Dawns - defnyddir y term hwn i wahaniaethu rhwng arwain a hyfforddi a dysgu. Er bod hyfforddi a dysgu'n rhan bwysig o'r gwaith hwn nid ydynt yn disgrifio'r holl gymwyseddau sy'n ofynnol er mwyn arwain dawns. Yn ogystal â dilyn maes llafur, traddodiad neu gwricwlwm wedi'i saernïo o amgylch addysg neu arddull ddawns, neu weithiau yn hytrach na gwneud hynny, bydd yr arweinydd dawns yn creu cyfleoedd i gyfranogwyr gyfrannu'n greadigol i lunio'u dawns neu eu rhaglen ddawns. Mae 'arwain' dawns yn gofyn bod ymarferwr yn gallu ymchwilio, cynllunio, sefydlu, marchnata, dysgu/hwyluso/gwneud a gwerthuso dawns gyda grwpiau a/neu unigolion penodedig mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

 
Sgiliau trosglwyddadwy – y sgiliau sydd gennych sy'n berthnasol i'r bobl rydych am weithio gyda nhw neu'r mannau lle rydych am weithio, ac sy'n ychwanegol at eich sgiliau arwain dawns, y byddwch wedi'u datblygu o bosibl drwy brofiadau bywyd neu fathau eraill o hyfforddiant ffurfiol, er enghraifft, yn y sectorau gofal, iechyd neu addysg. 

 
Mae grwpiau penodol o bobl a/neu fannau penodol yn cyfeirio at ystod o grwpiau a allai gymryd rhan mewn dawns, er enghraifft, plant a phobl ifanc, pobl hŷn neu bobl anabl; gallai mannau penodol gyfeirio at ystod o fannau lle gellid cynnal dawns, gan gynnwys mannau penodol, er enghraifft, ysbytai, canolfannau ieuenctid, cartrefi preswyl, neu leoliadau cyfiawnder troseddol.

 
Cynnig o ran dawns - mae'r term "cynnig" yn un a ddefnyddir yn gyffredin ym myd busnes i olygu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth rydych chi'n ei gynnig a dylech gyfleu'r cynnig yn glir fel bod eich cwsmeriaid yn ei ddeall. Fe'i defnyddir yn yr un modd yma; bydd gwerthuso eich sgiliau a'u mynegi fel "cynnig" yn fodd i chi a phobl eraill bennu eu gwerth. Bydd hyn yn eich galluogi i farchnata eich gwasanaeth yn hyderus.

 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol

URN gwreiddiol

CCSDL1

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio

Cod SOC


Geiriau Allweddol

arweinyddiaeth ddawns, dawns cymunedol, gwerthuso, hunan-werthuso