Hwyluso’r defnydd o eitemau arddangos rhyngweithiol

URN: CCSCVO7
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Lleoliadau Diwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â galluogi ymwelwyr i gael y profiad gorau posib wrth ymwneud yn rhyngweithiol ag eitemau arddangos mewn lleoliad diwylliannol neu dreftadaeth. Bydd angen gwirio eitemau arddangos yn ddyddiol cyn agor a bydd angen riportio unrhyw broblemau neu niwed. I bwrpasau’r safon hwn mae ‘eitemau arddangos rhyngweithiol’ yn cynnwys eitemau rhyngweithiol clyweled / TG, eitemau rhyngweithiol Gwaith Set, eitemau rhyngweithiol Mecanyddol ac eitemau rhyngweithiol Synhwyraidd. Mae enghreifftiau’n cynnwys, ond nis cyfyngir i, ganllawiau sain, ffilmiau, rhaglenni cyfrifiadurol, botymau gwthio sengl, paneli cyffwrdd sgrin, ffosilau, crochenwaith, peiriannau a gosodiadau celf.

Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â hwyluso’r defnydd o eitemau arddangos rhyngweithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Gwirio fod eitemau arddangos rhyngweithiol yn gweithredu fel y dylent ac nad oes dim byd wedi torri

2      Riportio unrhyw nam, problem neu niwed i bobl berthnasol gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

3      Annog ymwelwyr i wneud defnydd llawn o eitemau arddangos rhyngweithiol bob amser

4      Cynorthwyo ymwelwyr gyda phwrpas eitemau arddangos rhyngweithiol mewn dull ac ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw

5      Darparu gwybodaeth i ymwelwyr sy’n gwella’u profiad a’u dealltwriaeth o eitemau arddangos


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Cynnwys, pwrpas a strwythur yr

2      Sut y dylai’r eitemau arddangos rhyngweithiol weithredu

3      Gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer riportio unrhyw nam, problem neu niwed, ac i bwy y dylid eu riportio

4      Y profiad y dylai ymwelwyr ei ddisgwyl oddi wrth yr eitemau arddangos rhyngweithiol

5      Y cyfyngiadau ar hygyrchedd eitemau arddangos, a sut i addasu eich ymwneud ag ymwelwyr yn unol â hynny

6      Y mathau o gwestiynau y gallai ymwelwyr eu gofyn wrth ymwneud ag eitemau arddangos a sut i’w hateb

7      Dulliau a thechnegau cyfathrebu

8      Sut i fesur gwybodaeth a gallu ymwelwyr wrth eu cynorthwyo ag eitemau arddangos rhyngweithiol, a pham ei bod hi’n bwysig gwneud hynny. 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCV27

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Lleoliad Diwylliannol

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Diwylliant, Lleoliad, Gweithrediadau, Rhyngweithiol, Arddangos