Paratoi ar gyfer ac arwain teithiau tywys

URN: CCSCVO6
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Lleoliadau Diwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â darparu a pharatoi teithiau tywys ar gyfer ymwelwyr i’ch lleoliad. Dylech fod yn gallu dethol yn glir wybodaeth gywir a pherthnasol i’w gynnwys yn y teithiau. Rhaid i chi sicrhau fod cyflymder, fformat, cynnwys ac arddull y cyflwyniad yn addas ar gyfer yr ymwelwyr. Mae’r safon hwn hefyd yn addas ar gyfer gweithgareddau dehongli.

Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â pharatoi a darparu teithiau tywys neu weithgareddau dehongli ar gyfer ymwelwyr. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Cael caniatâd i gynnal teithiau tywys oddi wrth y bobl berthnasol

2      Dethol eitemau a gwybodaeth sy’n berthnasol i’w gynnwys yn y teithiau tywys

3      Penderfynu faint o amser fydd ei angen arnoch i gwblhau teithiau tywys, gan gynnwys pob eitem a gwybodaeth a ddewiswyd, yn unol â nodau’r daith

4      Dewis y llwybr a threfn y teithiau tywys er mwyn cwrdd â nodau’r daith

5      Penderfynu ar y cyflymder y darperir yr wybodaeth i ymwelwyr er mwyn galluogi dealltwriaeth

6      Sicrhau fod y fformat, y cynnwys ac arddull y cyflwyniadau’n addas ar gyfer ymwelwyr

7      Cael gafael ar y cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer cwblhau teithiau tywys oddi wrth y bobl berthnasol

8      Cadarnhau strwythur y teithiau tywys gyda phobl addas

9      Cynnal iechyd a diogelwch y bobl a sicrhau bod pob eitem yn ddiogel bob amser yn unol â pholisïau sefydliadol

10   Darparu digon o amser i gwblhau’r teithiau tywys yn unol ag amserlenni’r daith

11   Darparu cymorth i ymwelwyr i gwblhau teithiau sy’n cwrdd â’u hanghenion, gan dynnu sylw at bob cyfleuster

12   Gwneud addasiadau addas i deithiau tywys sy’n adlewyrchu anghenion ymwelwyr

13   Darparu gwybodaeth mewn dull sy’n cwrdd ag anghenion ymwelwyr

14   Darparu gwybodaeth glir i ymwelwyr sy’n berthnasol i’r eitemau a gynhwysir yn y teithiau

15   Annog ymwelwyr i gynnal diddordeb mewn eitemau drwy gydol y teithiau

16   Dilyn llwybrau penodedig a threfn y teithiau tywys

17   Caffael gwybodaeth ac eglurhad gan bobl addas pan na allwch chi ateb cwestiynau eich hunan

18   Cynorthwyo ymwelwyr i gael mynediad i ffynonellau gwybodaeth ychwanegol addas sy’n berthnasol i eitemau

19   Cynnal iechyd a diogelwch y bobl a sicrhau bod pob eitem yn ddiogel bob amser yn unol â pholisïau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Polisïau, prosesau a phrotocolau sefydliadol ynghylch paratoi a darparu teithiau tywys

2      Ble a sut i gael cymeradwyaeth ar gyfer cynnal teithiau tywys

3      Y pwnc y byddwch chi’n sôn amdano

4      Trefn y daith gan gynnwys amserlen

5      Y mathau o gynulleidfa ar gyfer y daith ac unrhyw anghenion arbennig sydd gan y gynulleidfa

6      Nodau’r daith a sut i’w defnyddio i farnu llwyddiant

7      Dulliau a thechnegau cyfathrebu

8      Sut i gynnal diddordeb y gynulleidfa ar y teithiau

9      Ffynonellau gwybodaeth sy’n berthnasol i gynnwys eich taith

10   At bwy y dylech gyfeirio pobl pan na allwch chi ddarparu gwybodaeth ddigonol

11   Polisïau sefydliadol ar gyfer iechyd a diogelwch a sicrwydd

 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCV16

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Lleoliad Diwylliannol

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Diwylliant, Lleoliad, Gweithrediadau, Tywys