Hybu cyfleusterau achlysuron a digwyddiadau mewn lleoliad diwylliannol

URN: CCSCVO4
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â delio ag ymholiadau’n ymwneud â llogi ardaloedd o fewn eich lleoliad. Er mwyn sicrhau incwm, bydd sawl lleoliad diwylliannol yn llogi ardaloedd ar gyfer gwleddoedd, priodasau, partïon preifat, ciniawau cyflwyno, cynadleddau, arddangosfeydd ac ati. Mae’n bwysig eich bod chi’n gallu hyrwyddo’r gwasanaeth hwn i’r rhai sy’n ymholi ynghylch cyfleusterau’r lleoliad. Bydd angen i chi gael gwybodaeth dda o’r lleoliad a’r cyfleusterau y mae’n gallu’u cynnig ar gyfer mathau gwahanol o ddigwyddiadau.

Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n hybu cyfleusterau achlysuron a digwyddiadau mewn lleoliad diwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

* *
1      Darparu manylion cywir am niferoedd ac argaeledd cyfleusterau i'r rhai sy'n gwneud ymholiad
2      Rhoi cyngor ar addasrwydd y lleoliad ar gyfer y math o ddigwyddiad a fydd yn cael ei gynnal
3      Trafod opsiynau gosodiadau posibl y gellir eu cyflawni o fewn cyfyngiadau'r lleoliad
4      Awgrymu trefniadau amgen pan na allwch chi gwrdd â'r dyddiad neu'r dull gosod yn y cyfleuster
5      Darparu gwybodaeth gywir ynghylch cyfyngiadau mynediad i'r cyfleusterau i bwy bynnag sy'n gwneud yr ymholiad
6      Amlinellu manteision a goruchafiaeth y lleoliad i bwy bynnag sy'n gwneud yr ymholiad
7      Awgrymu gwasanaethau ychwanegol addas y gall eich sefydliad eu cynnig i gyd-fynd â llogi'r cyfleusterau
8      Cyfrifo gwybodaeth gywir am gost y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bwy bynnag sy'n gwneud yr ymholiad

9      Anfon ymholiadau nad ydych chi'n gallu ymdrin â nhw eich hun ymlaen at bobl addas

10   Ymdrin â gofynion archebu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Uchafswm y nifer o bobl y gellir eu cynnwys yn y cyfleuster

2      Y dulliau gwahanol o osod y lle y gall y cyfleuster ei gynnig

3      Mynediad a chyfyngiadau eraill sy’n berthnasol i’r cyfleuster

4      Sut i wirio a yw’r cyfleuster ar gael ac a oes staff addas

5      Manteision y lleoliad

6      Hanes diwylliannol y lleoliad a sut y gellir defnyddio hwn fel pwynt gwerthu ar gyfer y cyfleuster

7      Y mathau o ddigwyddiadau a fyddai’n cael eu hystyried yn addas neu’n anaddas ar gyfer y lleoliad

8      Ymwybyddiaeth o unrhyw oblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd o gynnal digwyddiad yn eich lleoliad

9      Pryd i rannu gwybodaeth a’i drosglwyddo ar gyfer gwneud penderfyniad, ac i bwy y dylid ei drosglwyddo

10   Sut i gyfrifo’r costau sy’n gysylltiedig â llogi’r cyfleuster

11   Pa wasanaethau eraill y gallech chi eu traws-werthu i gefnogi’r digwyddiad

12   Polisïau, prosesau a phrotocolau sefydliadol ar gyfer trin archebion, gan gynnwys a ddylid derbyn yr archeb ynteu a ddylid anfon yr ymholiad ymlaen at berson addas

13   Oblygiadau iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â llogi’r cyfleuster, a’r math o ddigwyddiad i’w gynnal

14   Strwythur oruchwylio a rheoli eich sefydliad

15   At bwy i anfon ymholiadau pan na allwch chi roi cymorth

16   Dulliau a thechnegau cyfathrebu

17   Pryd y mae’n addas gweithredu o’ch pen a’ch pastwn eich hun i ddatrys problem neu ateb ymholiad, a phryd y mae’n addas trosglwyddo’r mater neu’r ymholiad i rywun arall a chael cefnogaeth


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCV4

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Lleoliad Diwylliannol

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Diwylliannol, Lleoliad, Gweithrediadau, Digwyddiadau, Achlysuron, Cyfleusterau