Ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau

URN: CCSCVO14
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hwn yn ymwneud ag ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau. Gallai'r rhain gynnwys tân, gweithredoedd terfysgol, pecynnau amheus, ymddygiad amheus, toriadau mewn diogelwch, salwch neu anafiadau.

Bydd angen i chi fod yn rhagweithiol wrth adnabod pryd y bydd digwyddiad neu argyfwng yn digwydd, a chyfeirio aelodau'r cyhoedd a staff yn unol â'r gweithdrefnau addas.

Mae'r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud ag ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Gwneud ymateb cychwynnol i ddigwyddiadau ac argyfyngau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

2      Cael gafael ar bob gwybodaeth berthnasol am ddigwyddiadau ac argyfyngau sy'n digwydd yn ddi-oed

3      Cyfathrebu â phawb sy'n ymwneud â digwyddiadau ac argyfyngau mewn modd sy'n addas i'r sefyllfa

4      Gweithredu'n addas a chyflym yn unol â gweithdrefnau sefydliadol i rwystro sefyllfaoedd rhag mynd o ddrwg i waeth

5      Riportio digwyddiadau ac argyfyngau mewn dull clir a chywir i gydweithwyr priodol

6      Trosglwyddo rheolaeth i gydweithwyr priodol pan fo galw

7      Cynnal eich cyfrifoldebau chi mewn dull diogel effeithiol ac effeithlon yn unol â gweithdrefnau diogelwch y sefydliad

8      Ymdrin ag unrhyw wylwyr gyda gweithdrefnau sefydliadol

9      Cynnal hawliau'r unigolion sy'n rhan o'r sefyllfa yn unol â gweithdrefnau diogelwch y sefydliad

10   Gweithredu cynlluniau wrth gefn yn unol â gweithdrefnau diogelwch y sefydliad

11   Cofnodi a riportio gwybodaeth am ddigwyddiadau ac argyfyngau y gellid eu defnyddio ar gyfer gweithredu yn y dyfodol yn unol â gweithdrefnau diogelwch y sefydliad

12   Sicrhau fod cyfarwyddiadau a cheisiadau i eraill yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Y mathau o ddigwyddiadau ac argyfyngau a all ddigwydd gan gynnwys tân, gweithredoedd terfysgol, pecynnau amheus, ymddygiad amheus, toriadau mewn diogelwch, salwch neu anafiadau

2      Gweithdrefnau sefydliadol y dylech chi eu dilyn wrth wneud ymateb cychwynnol

3      Sut i adnabod pryd mae digwyddiad neu argyfwng yn digwydd neu ar fin digwydd

4      Pwysigrwydd cyfathrebu’n glir a chywir, a phwysigrwydd dilyn gweithdrefnau sefydliadol wrth ymateb i ddigwyddiad neu argyfwng

5      Gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol ar gyfer riportio digwyddiadau neu argyfyngau yn y cyfnodau cynnar

6      Gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol ar gyfer rheoli digwyddiad neu argyfwng, a pha rolau y bydd aelodau eraill o staff yn eu cymryd

7      Gweithdrefnau ar gyfer defnyddio grym yn ystod digwyddiad neu argyfwng am bwysigrwydd ddefnyddio grym rhesymol yn unig

8      Dulliau a thechnegau cyfathrebu

9      Cynlluniau wrth gefn ar gyfer ystod o ddigwyddiadau ac argyfyngau a’ch rôl chi ynddynt

 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCV22

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Lleoliad Diwylliannol

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Diwylliant, Lleoliad, Gweithrediadau, Ddigwyddiadau, Diogelwch