Monitro diogelwch ac amgylchedd eitemau mewn lleoliad diwylliannol

URN: CCSCVO11
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â diogelu eitemau mewn lleoliad diwylliannol. Gallai eitemau fod yn offer neu’n wrthrychau. Bydd gofyn i chi fonitro diogelwch eitemau rhag ymosodiad a lladrad yn ogystal â monitro’r amgylchedd ble cedwir y pethau. Bydd gofyn i chi ddangos y gallu i fod yn rhagweithiol yn y gweithle.

Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â monitro diogelwch ac amgylchedd offer neu eitemau mewn lleoliad diwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Monitro ymwelwyr i leoliad y sefydliad yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

2      Darparu'r wybodaeth gywir i ymwelwyr ynghylch sut i leoli eitemau

3      Darparu gwybodaeth gywir i ymwelwyr ynghylch faint o fynediad a chyswllt â'r eitemau a ganiateir

4      Gweithredu’n gyflym ac yn briodol pan fyddwch chi’n adnabod gweithgareddau anaddas neu waharddedig

5      Defnyddio ymddygiad sy'n osgoi cynyddu sefyllfaoedd bob amser

6      Gosod arwyddion a rhwystrau mewn lleoliadau addas i gynorthwyo ymwelwyr

7      Galw am gymorth ychwanegol gan bobl addas pan na ellir ymdrin â digwyddiad yn ddiogel gyda'r adnoddau sydd i law ar unwaith

8      Rheoli mynediad i leoliadau yn unol â gofynion diogelwch penodol

9      Monitro lleoliadau yn unol â gweithdrefnau a dulliau penodedig

10   Adnabod problemau diogelwch ac amgylcheddol a gweithredu mewn modd addas ar fyrder

11   Gwirio systemau diogelwch ac amgylcheddol yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn gweithredu fel y dylent

12  Gweithredu ar unwaith i ddiogelu eitemau pan fydd namau ar systemau diogelwch neu amgylcheddol yn cael eu hamlygu 

13   Cofnodi manylion cywir am bob digwyddiad diogelwch neu amgylcheddol mewn systemau cofnodi addas yn ddi-oed

14   Cynnal iechyd a diogelwch pobl a diogelwch pob eitem bob amser


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro ymwelwyr

2      Ble y lleolir eitemau a’r mynediad a’r cyswllt a ganiateir

3      Pa weithgareddau y gellir eu pennu fel anaddas a gwaharddedig, a beth ddylech chi ei wneud pan fydd gweithgareddau o’r fath yn digwydd

4      Ble y dylid lleoli arwyddion a rhwystrau

5      Ymddygiad i’w ddefnyddio er mwyn cadw eraill yn dawel ac osgoi sefyllfaoedd rhag mynd o ddrwg i waeth

6      Ar bwy i alw pan fydd angen cymorth ychwanegol

7      Y mathau o ddigwyddiadau y dylid eu riportio a’u cofnodi

8      Gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer riportio a chofnodi digwyddiadau

9      Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer monitro a rheoli mynediad i leoliadau

10   Dulliau a thechnegau cyfathrebu

11   Y paramedrau amgylcheddol ar gyfer diogelu’r offer neu wrthrychau yr ydych chi’n eu monitro

12  Pa gamau dylid eu cymryd pan gwyd problemau diogelwch a / neu amgylcheddol

 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCV14

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Lleoliad Diwylliannol

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Diwylliant, Lleoliad, Gweithrediadau, Diogelwch, Amgylchedd