Datblygu rotas staff i gwrdd ag anghenion gweithredu mewn lleoliad diwylliannol
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â datblygu rotas staff er mwyn sicrhau fod digon o staff ar ddyletswydd bob amser Bydd angen i chi fod yn gallu cynhyrchu cynlluniau a rhaglenni clir a chywir. Rhaid i chi sicrhau fod eich rhaglen yn ystyried deddfau perthnasol a chytundebau cyflogi staff.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â datblygu rotas staff mewn sefydliad diwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Cynhyrchu cynlluniau a rhaglennu staffio sy'n ymdrin â phob angen gweithredol
2 Cynhyrchu cynlluniau a rhaglenni staffio sy'n dynodi gwaith yn unol â lefelau sgiliau pobl
3 Cynhyrchu cynlluniau a rhaglenni staffio sy'n manylu ar leoliadau gwaith ac amseroedd dechrau a gorffen
4 Sicrhau fod cynlluniau a rhaglenni staffio'n cynnwys niferoedd a symiau cywir
5 Amserlennu oriau gwaith sy'n glynu wrth ddeddfau, polisi cwmni a chytundebau cyflogi perthnasol
6 Cynhyrchu cynlluniau sy'n hawdd i'r bobl berthnasol eu deall a'u defnyddio
7 Datblygu cynlluniau wrth gefn a fydd yn dygymod â sefyllfaoedd annisgwyl
8 Monitro materion iechyd a diogelwch sy'n ymwneud â rota'r staff yn unol â gofynion iechyd a diogelwch
9 Sicrhau fod y system rota staff yn deg ac yn ddiduedd i bob aelod o staff
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Deddfau perthnasol, polisi’r cwmni a thelerau ac amodau cytundebau sy’n effeithio ar yr oriau y gall staff eu gweithio
2 Gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol sy’n ymwneud â rotas staff
3 Y sgiliau sydd eu hagen i gwrdd ag anghenion gweithredol
4 Y nifer o staff sydd eu hangen i gwrdd ag anghenion gweithredol
5 Sut i gynhyrchu a chyflwyno cynlluniau staffio mewn ffurf sy’n addas ar gyfer y bobl sy’n eu defnyddio
6 Sut i gynnwys cynllun wrth gefn ar gyfer dygymod â sefyllfaoedd annisgwyl
7 Dulliau a thechnegau cyfathrebu
8 Sut i fod yn deg a diduedd wrth weithredu system rota staff