Paratoi ar gyfer a derbyn nwyddau a deunyddiau

URN: CCSCVO1
Sectorau Busnes (Suites): gweithrediadau lleoliad creadigol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â derbyn nwyddau a deunyddiau. Bydd angen i chi allu paratoi ar gyfer a derbyn cyflenwadau. Mae disgwyl i chi baratoi’r ardal dderbyn pan fydd hi’n addas gwneud hynny a derbyn nwyddau a deunyddiau. Mae hyn yn gofyn i chi gwblhau’r ddogfennaeth berthnasol a sicrhau fod unrhyw systemau rheoli stoc wedi cael eu diweddaru. Gall sefyllfaoedd godi pan fydd gofyn i chi wrthod derbyn nwyddau a deunyddiau. Mewn achosion felly, mae gofyn i chi roi gwybod i’r bobl sydd angen gwybod a nodi pam y cawsant eu gwrthod.

Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n paratoi ar gyfer ac yn derbyn nwyddau neu ddeunyddiau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod yr hyn sy'n cael ei dderbyn i'w storio

2      Sicrhau fod yr ardal dderbyn yn lân, yn daclus ac yn rhydd o unrhyw rwystrau a pheryglon cyn i'r cyflenwadau gyrraedd

3      Sicrhau fod offer trin addas ar gael, a'i fod yn gweithio'n iawn

4      Gwirio fod digon o le i storio unrhyw gyflenwadau a ddisgwylir, gan ddweud wrth y bobl addas os nad oes digon o le

5      Sicrhau fod yr holl ddogfennaeth wedi'i gwblhau, yn gywir ac yn gyfredol

6      Gwirio cyflenwadau i sicrhau fod math, ansawdd a nifer y nwyddau fel y disgwylid iddynt fod

7      Gweithredu'n unol â phrosesau'r sefydliad pan fydd anghysonderau mewn cyflenwadau

8      Gwrthod cyflenwadau pan fo hynny'n addas, yn unol â phrosesau sefydliadol

9      Gwneud cofnodion cywir a rhoi gwybod i'r bobl addas pan wrthodwyd cyflenwadau

10   Trin stoc mewn modd sy'n osgoi achosi niwed iddo

11   Diweddaru systemau rheoli stoc a sicrhau fod pob dogfennaeth wedi'i gwblhau ac yn gywir

12   Trin nwyddau mewn modd diogel a glanwaith yn unol â phrosesau sefydliadol  


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Sut i gael mynediad i wybodaeth a sut i’w ddehongli i benderfynu ansawdd a nodweddion y cyflenwadau

2      Gweithdrefnau sy’n ymwneud â derbyn nwyddau a deunyddiau a chanlyniadau peidio â’u dilyn

3      Pam fod dogfennaeth gywir sydd wedi cael ei gwblhau yn bwysig, a chanlyniadau posib cwblhau’n anghywir

4      Sut i ddefnyddio systemau rheoli stoc

5      Yr offer trin cywir a sut i gael mynediad iddo

6      Unrhyw nam a all godi mewn offer, a beth i’w wneud i ymateb iddynt

7      Beth i’w wneud i gywiro namau, ac i bwy i adrodd amdanynt

8      Pam ei bod hi’n bwysig trin nwyddau’n ddiogel

9      Ble dylid dadlwytho cyflenwadau

10   Y broses gyfathrebu o fewn y sefydliad a sut i’w defnyddio

11   Pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ac oblygiadau peidio â chyfathrebu’n effeithiol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCV2

Galwedigaethau Perthnasol

Cymorth Lleoliad Diwylliannol

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Diwylliant, Lleoliad, Gweithrediadau, Cymorth, Nwyddau, Deunyddiau