Archwilio ac adrodd am waith adfer neu adnewyddu ar safleoedd, lleoliadau a strwythurau treftadaeth

URN: CCSCH9
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud ag archwilio ac adrodd am yr adeiladwaith gwreiddiol, unrhyw waith adeiladu newydd arfaethedig a gwaith adfer neu adnewyddu i strwythurau, safleoedd neu leoliadau treftadaeth. Gallai'r ymweliadau, asesiadau a'r adroddiadau safle ymwneud â gwaith adfer neu adnewyddu yn y gorffennol neu'r dyfodol.   

Mae'n ymwneud â dehongli'r gofynion a'r paramedrau, asesu'r deunyddiau a ddefnyddiwyd ac ansawdd y saernïaeth, tynnu lluniau o agweddau allweddol y safleoedd, lleoliadau neu strwythurau gyda chamera, cynnig argymhellion a llunio adroddiadau am sut mae'r gwaith adfer neu adnewyddu naill ai wedi'i gyflawni neu sut mae modd ei gyflawni.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer ymgynghorwyr treftadaeth neu unrhyw un sy'n gyfrifol dros archwilio ac adrodd am waith adfer neu adnewyddu i safleoedd, lleoliadau neu strwythurau treftadaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. caffael gwybodaeth am ofynion a pharamedrau archwiliadau ac adroddiadau ar gyfer prosiectau adfer neu adnewyddu gan y bobl briodol
  2. argymell sut gellir caffael gwybodaeth am brosiectau adfer neu adnewyddu yn y gorffennol neu'r dyfodol i'r lefel o fanylder sy'n ofynnol
  3. defnyddio'r dulliau priodol i asesu safleoedd, lleoliadau neu strwythurau treftadaeth yn unol â gofynion y prosiect
  4. ymchwilio'r wybodaeth berthnasol am hanes safleoedd, lleoliadau neu strwythurau treftadaeth
  5. ymchwilio'r deunyddiau neu orffeniadau ar safleoedd, lleoliadau neu strwythurau treftadaeth yn ystod y cyfnod amser dymunol ar gyfer y gwaith adfer neu adnewyddu
  6. asesu'r deunyddiau a ddefnyddir ac ansawdd y saernïaeth o gymharu â'r safonau derbyniol
  7. cynnig argymhellion sy'n cadw ac yn ymgorffori nodweddion treftadaeth
  8. cynnig argymhellion sy'n cydymffurfio gyda'r gofynion cyfreithiol ar gyfer amddiffyn y dreftadaeth, safonau arfer da perthnasol ac unrhyw ofynion cynllunio lleol
  9. llunio adroddiadau a thynnu lluniau camera sy'n portreadu cyflwr yr adeiladwaith gwreiddiol, y gwaith adfer a'r gwaith adnewyddu yn gywir
  10. darparu adroddiadau a lluniau camera i gleientiaid ac uwch reolwyr yn unol â'r graddfeydd amser y cytunwyd arnyn nhw
  11. darparu cyngor technegol o fewn eich maes arbenigedd er mwyn ategu adroddiadau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y ffynonellau o wybodaeth fanwl am ofynion a pharamedrau'r prosiect ar gyfer prosiectau adfer neu adnewyddu yn y gorffennol neu'r dyfodol
  2. yr hanes pensaernïol ac egwyddorion dylunio pensaernïol a nodweddion treftadaeth mewn perthynas â strwythurau treftadaeth
  3. sut i gaffael a dehongli cynlluniau adeiladu a dogfennau hanesyddol
  4. y dulliau archwilio ar gyfer safleoedd, lleoliadau a strwythurau
  5. y ddeddfwriaeth a'r gofynion iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig ag ymweld â safleoedd, lleoliadau a strwythurau
  6. y gofynion cyfreithiol ar gyfer amddiffyn treftadaeth, y safonau arfer da ar gyfer y diwydiant treftadaeth ac unrhyw ofynion cynllunio lleol
  7. y dulliau gwarchodaeth sy'n berthnasol i'r safleoedd, y lleoliadau a'r strwythurau treftadaeth rydych chi'n eu hasesu
  8. safonau cydnabyddedig y diwydiant ar gyfer deunyddiau ac ansawdd y bensaernïaeth
  9. y technegau a'r gosodiadau ffotograffig i bortreadu cyflwr yr adeiladwaith gwreiddiol, y gwaith adfer neu'r gwaith adnewyddu
  10. cynnwys, a'r ffurf ar gyfer, adroddiad ymgynghoriaeth treftadaeth
  11. y graddfeydd amser y cytunwyd arnyn nhw a sut i weithio gan fodloni'r terfynau amser
  12. y technegau a'r sianelau ar gyfer cyfathrebu gyda chleientiaid ac uwch reolwyr
  13. graddau a chyfyngiadau eich maes arbenigedd mewn perthynas ag asesiadau, adrodd a chyngor technegol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCH1

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Adeiladu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth, Pensaernïaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

adeilad treftadaeth; strwythur treftadaeth; safle treftadaeth; archwilio; adrodd;