Pacio a chludo treftadaeth ddiwylliannol

URN: CCSCH5
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â phacio a chludo treftadaeth ddiwylliannol. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at gyfansoddion adeiladau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau hanesyddol. Gallai gwrthrychau olygu celfwaith, arteffactau neu sbesimenau.

Gallai'r dreftadaeth ddiwylliannol gael eu cludo o fewn adeiladau neu rhwng adeiladau sydd weithiau'n golygu pellteroedd maith, er enghraifft, pan mae pobl yn caffael neu'n benthyca gwrthrychau. 

Mae'n ymwneud â defnyddio deunyddiau pacio a diogelu priodol, labelu pecynnau gyda chyfarwyddiadau trin a phen taith, cwblhau gwaith papur, defnyddio cyfarpar symud a threfnu llwythi a monitro llwybrau cludo gan ddwyn i ystyriaeth y peryglon naturiol, amgylcheddol a diogelwch.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n pacio ac yn cludo treftadaeth ddiwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​sicrhau bod y cyfarpar, y deunyddiau a'r bobl angenrheidiol ar gael i bacio gwrthrychau
  2. pacio gwrthrychau yn unol â'r canllawiau a'r gweithdrefnau penodol
  3. cytuno gyda'r holl bobl berthnasol ynghylch unrhyw wyriadau oddi wrth y canllawiau a'r gweithdrefnau penodol ynghyd â cheisio cyngor ychwanegol gan arbenigwyr pan fo'n briodol
  4. defnyddio'r deunyddiau a'r cyfarpar amddiffynnol sy'n briodol i ofynion gwarchodaeth y gwrthrychau
  5. sicrhau bod y deunydd pacio yn amddiffyn y gwrthrychau i'r lefel y cytunwyd arni ac yn darparu rheolaeth amgylcheddol a diogelwch ar gyfer gwrthrychau yn eu hamgylchedd a'r dull cludo a rhagwelir  
  6. marcio'r deunydd pacio gyda'r cyfarwyddiadau trin a phen taith eglur a chywir
  7. cofnodi gwybodaeth fanwl gywir ynghylch pacio a chludo a'i rannu gyda'r bobl briodol
  8. cadarnhau'r awdurdod i gludo eitemau gyda'r holl bobl berthnasol
  9. gwirio bod y cyfarpar a ddefnyddir i gludo gwrthrychau yn addas ar eu cyfer a chadarnhau ei fanyleb ac ydyn nhw ar gael gyda'r bobl briodol
  10. trefnu llwythi mewn modd sy'n cynorthwyo gyda llwytho, dadlwytho a diogelu'r eitemau
  11. cydymffurfio gyda'r canllawiau a'r gweithdrefnau trin perthnasol bob amser
  12. monitro'r llwybrau cludo ar gyfer cyfyngiadau naturiol, amgylcheddol a diogelwch
  13. asesu'r gofynion danfon nad oes modd eu bodloni a chytuno ar ddatrysiadau amgen gyda'r bobl berthnasol
  14. cymryd camau unioni prydlon i leihau peryglon gwirioneddol neu ddichonol i wrthrychau
  15. cadw'r holl ddogfennau perthnasol gyda'r gwrthrychau bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​pwy allai awdurdodi'r gwaith pacio gwrthrychau
  2. pwy a beth sydd ei angen i bacio gwrthrychau
  3. y canllawiau a'r gweithdrefnau penodol ar gyfer pacio gwrthrychau
  4. pwy yw'r bobl orau i gynnig cyngor ar bacio
  5. y deunydd amddiffyn a'r cyfarpar sydd ar gael i fodloni gofynion gwarchodaeth y gwrthrychau
  6. yr ystyriaethau diogelwch a'r gofynion rheoli amgylcheddol ar gyfer gwrthrychau
  7. sut i farcio deunydd pacio gyda'r manylion o ran trin a phen taith
  8. sut gallai gwahanol ddulliau cludo effeithio ar ystyriaethau pacio a diogelwch eitemau gan gynnwys teithio mewn awyren
  9. sut i gofnodi gwybodaeth a'i rannu gydag eraill
  10. y gweithdrefnau a'r canllawiau ar gyfer trin gwrthrychau
  11. y dulliau o drefnu llwythi sy'n amddiffyn eitemau gan gynorthwyo gyda'r gwaith llwytho a dadlwytho                                           
  12. sut i fonitro llwybrau cludo
  13. sut i adnabod ac ymdrin â pheryglon gwirioneddol a dichonol
  14. y gofynion dogfennu sy'n ymwneud â symud gwrthrychau
  15. pwy ddylid ymgynghori gyda nhw pan nad oes modd bodloni'r gofynion danfon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCH55

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Gyrwyr a Gweithwyr Cludiant, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth, Rheolwyr mewn Dosbarthu, Storio ac Adwerthu, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cludo, Cyhoeddi a gwasanaethau gwybodaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

casgliadau; strwythurau; cyfansoddion; arteffactau; celfwaith; deunydd pacio; amddiffyn; cludo; treftadaeth ddiwylliannol;