Cynnig gwybodaeth ar agweddau penodol o dreftadaeth ddiwylliannol i gydweithwyr, arianwyr neu’r cyhoedd

URN: CCSCH31
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflwyno gwybodaeth ar agweddau penodol o dreftadaeth ddiwylliannol i gydweithwyr, arianwyr neu'r cyhoedd. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at adeiladau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau hanesyddol, neu dreftadaeth anghyffyrddadwy.

Mae'n ymwneud ag ymchwilio ffeithiau a straeon, egluro'r gofynion gwybodaeth, cyflwyno gwybodaeth ar y ffurf gywir, annog cwestiynau, cofnodi adborth a throsglwyddo ceisiadau sydd y tu hwnt i'ch cylch gwaith. 

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sydd mewn sefydliad treftadaeth ddiwylliannol ac sy'n gyfrifol dros gyflwyno gwybodaeth ar agweddau penodol o dreftadaeth ddiwylliannol i gydweithwyr, arianwyr neu aelodau o'r cyhoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​defnyddio ffynonellau dibynadwy i ymchwilio hanes treftadaeth ddiwylliannol benodol a'r rhesymau pam eu bod nhw'n rhan o gasgliad, pam eu bod yn cael eu harddangos neu pam eu bod nhw'n cael eu hystyried yn dreftadaeth ddiwylliannol
  2. nodi detholiad o ffeithiau a straeon am dreftadaeth ddiwylliannol benodol a fyddai o ddiddordeb i unigolion, grwpiau neu sefydliadau
  3. egluro perthynas treftadaeth ddiwylliannol benodol gyda gwrthrychau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau treftadaeth ddiwylliannol eraill neu dreftadaeth anghyffyrddadwy sydd ynghlwm â chylch gwaith y sefydliad
  4. defnyddio technegau cyfathrebu priodol i adnabod ac egluro gofynion gwybodaeth unigolion, grwpiau neu'r cynrychiolwyr sefydliadol
  5. darparu gwybodaeth gyfredol a pherthnasol am dreftadaeth ddiwylliannol benodol yn unol â pholisïau'r sefydliad
  6. annog unigolion, grwpiau neu gynrychiolwyr sefydliadol i ofyn cwestiynau am dreftadaeth ddiwylliannol benodol ar adegau priodol
  7. adnabod ffynonellau credadwy pellach o wybodaeth pan fo'r gofynion gwybodaeth y tu hwnt i gwmpas eich ymchwil sydd wedi'i gwblhau 
  8. gofalu am iechyd a diogelwch unigolion, grwpiau neu'r cynrychiolwyr sefydliadol a diogelwch gwrthrychau, strwythurau, safleoedd neu'r lleoliadau yn unol â'r gweithdrefnau deddfwriaethol a sefydliadol
  9. caffael gwybodaeth ar gyfer unigolion, grwpiau neu'r cynrychiolwyr sefydliadol mor fuan â phosibl wedi i chi dderbyn ceisiadau
  10. trosglwyddo ceisiadau am wybodaeth sydd y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb neu'ch arbenigedd at y bobl briodol
  11. cofnodi manylion manwl gywir am adborth a cheisiadau gan ymwelwyr a'i rannu gyda'r bobl briodol yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
  12. dychwelyd unrhyw ddeunyddiau gwybodaeth rydych chi'n eu benthyca erbyn y graddfeydd amser y cytunwyd arnyn nhw

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​ymchwilio methodoleg a ffynonellau credadwy o wybodaeth am y dreftadaeth ddiwylliannol benodol rydych chi'n eu hymchwilio
  2. sut i gaffael ffynonellau gwybodaeth a defnyddio systemau llyfrgell a gwybodaeth
  3. y gwrthrychau, strwythurau, safleoedd, lleoliadau a'r dreftadaeth anghyffyrddadwy sydd ynghlwm â chylch gwaith y sefydliad a'r mathau o berthnasau gyda'i gilydd
  4. pa wrthrychau, strwythurau, safleoedd, lleoliadau a threftadaeth anghyffyrddadwy sydd o'r diddordeb mwyaf i unigolion, grwpiau neu sefydliadau a pha fath o ffeithiau a straeon maen nhw'n ceisio amdanyn nhw fel arfer
  5. y polisïau a'r gweithdrefnau deddfwriaethol a sefydliadol sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch pobl a diogelwch gwrthrychau, strwythurau, safleoedd a lleoliadau treftadaeth ddiwylliannol
  6. sut i gynorthwyo ymwelwyr sydd ag anghenion arbennig ac adnabod pobl gallai fod angen cymorth
  7. y technegau cyfathrebu ar gyfer egluro gofynion yr unigolion, grwpiau neu'r cynrychiolwyr sefydliadol, ymateb i ymholiadau ac annog pobl eraill i ofyn cwestiynau
  8. y polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â darparu gwybodaeth i gydweithwyr, arianwyr a'r cyhoedd gan gynnwys pryd mae hi'n briodol i'w rhannu ar lafar a phryd i lunio deunyddiau
  9. sut i gynnal teithiau tywys anffurfiol a darparu gwybodaeth a chyfarwyddiadau i'r cyhoedd
  10. sut i lunio cyfarwyddiadau a deunyddiau canllaw ar dreftadaeth ddiwylliannol benodol
  11. sut i sicrhau bod yr wybodaeth am y dreftadaeth ddiwylliannol benodol yn gyfredol ac yn berthnasol
  12. sut i geisio am gymorth gan eich cydweithwyr
  13. sut i lunio adroddiadau am adborth gan ymwelwyr a chadw cofnodion o geisiadau gan ymwelwyr

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCH54

Galwedigaethau Perthnasol

Cofnodion, Cyffredinol, Cyfryngau a chyfathrebu, Rheoli busnes, Rheolwyr Swyddogaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gwasanaethau cyhoeddi a gwybodaeth, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

darparu gwybodaeth; casgliad; arddangos; treftadaeth ddiwylliannol; arteffact; adeiladau hanesyddol; strwythur; safle; lleoliad; treftadaeth anghyffyrddadwy;