Dylunio arddangosfeydd neu arddangosiadau

URN: CCSCH28
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio arddangosfeydd neu arddangosiadau. Nid oes gan lawer o sefydliadau adran dylunio arddangosfeydd ac fe fyddan nhw'n dibynnu ar y rheiny sy'n gyfarwydd â'r lle i helpu gosod yr arddangosfa. Mae'n berthnasol i sefydliadau creadigol neu ddiwylliannol yn bennaf ond gallai unrhyw sefydliad sy'n paratoi arddangosfeydd neu arddangosiadau ei defnyddio. Mae'n ymwneud ag ystyried mynediad i arddangosfeydd neu arddangosiadau ar gyfer y rheiny sydd ag anghenion arbennig.

Mae'n ymwneud â gwerthuso llwyddiant cynlluniau blaenorol, ymchwilio cynlluniau posibl, dewis cynlluniau sy'n cyflwyno'r cynnwys a'r wybodaeth gysylltiedig yn y ffordd orau a bodloni'r gofynion diogelwch, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a hygyrchedd, nodi deunyddiau a chynhyrchu brasfodelau.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n dylunio arddangosfeydd neu arddangosiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​caffael gwybodaeth ddibynadwy am ddefnyddwyr arfaethedig a'u gofynion
  2. gwerthuso'r wybodaeth berthnasol am lwyddiant cynlluniau ar gyfer arddangosfeydd neu arddangosiadau blaenorol
  3. caffael gwybodaeth ddibynadwy am y gyllideb, yr adnoddau sydd ar gael, y cynnwys i'w arddangos a'r lleoliad y byddwch chi'n ei ddefnyddio
  4. ymchwilio cynlluniau posibl sy'n bodloni gofynion arddangosfeydd neu arddangosiadau
  5. gwerthuso'r cynlluniau posibl a dewis cynlluniau sy'n cyflwyno'r cynnwys a'r wybodaeth gysylltiedig yn y ffordd orau
  6. sicrhau y bydd y cynlluniau sydd wedi'u dewis yn caniatáu bod modd i ystod mor eang â phosibl fanteisio ar yr arddangosfeydd neu'r arddangosiadau
  7. sicrhau y bydd y cynlluniau sydd wedi'u dewis yn bodloni gofynion amgylcheddol a diogelwch y cynnwys yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
  8. cyflawni asesiadau risg i sicrhau bod y cynlluniau sydd wedi'u dewis yn cydymffurfio gyda'r gofynion iechyd a diogelwch
  9. sicrhau y bydd y cynlluniau sydd wedi'u dewis yn amharu cyn lleied â phosibl ar rannau eraill o'r sefydliad
  10. cytuno ar y cynlluniau a ddewisir gyda'r bobl berthnasol
  11. dewis a nodi'r deunyddiau addas ar gyfer creu'r arddangosfeydd neu'r arddangosiadau
  12. defnyddio'r technegau priodol i lunio brasfodelau o'r cynlluniau sydd wedi'u dewis
  13. briffio unrhyw un sydd ynghlwm â'r gwaith dylunio gyda'r wybodaeth ddigonol iddyn nhw allu cyflawni eu rôl ofynnol
  14. rhoi dulliau priodol ar waith i gasglu adborth gan eich cydweithwyr a'r cyhoedd er mwyn gwerthuso llwyddiant y cynlluniau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddewis a chaffael y deunyddiau, y technolegau a'r adnoddau eraill priodol
  2. gofynion y cyfleusterau
  3. y ffynonellau gwybodaeth am y gynulleidfa targed, gofynion y defnyddwyr a chyfyngiadau'r prosiect gan gynnwys eich cydweithwyr sy'n ymwneud â gwasanaethau ymwelwyr, gweithrediadau, rheoli prosiect, casgliadau a churadu
  4. gwybodaeth am y gofynion arddangos a llif a symudiad y gynulleidfa a fydd yn effeithio ar y cynlluniau
  5. technegau gosodiad y gwaith dylunio  
  6. yr heriau posibl gallai ymwelwyr gyda nam symudedd, nam ar eu clyw a'r golwg a chyflyrau niwrowahanol neu o wahanol grwpiau cymunedol eu hwynebu a'r gwahanol strategaethau sydd ar gael i sicrhau ei bod mor rhwydd â phosibl iddyn nhw fanteisio ar yr arddangosfeydd neu'r arddangosiadau
  7. pam ei bod hi'n bwysig cynnwys ystyriaethau hygyrchedd yn y cynllun
  8. y dulliau cyfredol a newydd o gyflwyno gwybodaeth am gynnwys sy'n sicrhau bod yr hygyrchedd a'r ymgysylltiad mor llwyddiannus â phosibl
  9. gofynion diogelwch ac amgylcheddol y cynnwys a sut i sicrhau eu bod nhw'n cael eu bodloni drwy'r cynllun
  10. yr ystod o ddeunyddiau adeiladu ymarferol a'u buddion ac anfanteision ar gyfer cynlluniau ac ar gyfer arddangosfeydd ac arddangosiadau
  11. pwy ddylai gymeradwyo'r cynlluniau
  12. sut i adnabod y sgiliau angenrheidiol ar gyfer llunio cynlluniau a brasfodelau
  13. yr wybodaeth sydd ei hangen ar y bobl eraill sydd ynghlwm a sut i'w briffio
  14. sut i lunio bras gynlluniau
  15. sut i gomisiynu gwaith gan bobl eraill gan gynnwys y rheiny sydd y tu hwnt i'r sefydliad
  16. beth y gellir ei wneud i sicrhau bod yr arddangosfeydd neu'r arddangosiadau'n amharu cyn lleied â phosibl
  17. y rheoliadau iechyd a diogelwch y dylid eu bodloni, gan gynnwys sut i lunio asesiad risg
  18. y dulliau i gasglu adborth gan eich cydweithwyr a'r ymwelwyr a phwy sy'n gyfrifol am eu gweithredu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCH56

Galwedigaethau Perthnasol

Cyffredinol, Cyfryngau a chyfathrebu, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gwasanaethau cyhoeddi a gwybodaeth, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

digwyddiad; arddangosfa; arddangosiad; treftadaeth ddiwylliannol; sefydliad diwylliannol; hygyrchedd; hygyrch;