Datblygu a chyflawni gweithgareddau dysgu a dehongli ar-lein a wyneb-yn-wyneb

URN: CCSCH24
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chyflawni gweithgareddau dysgu a dehongli. Mae ar gyfer sefydliadau creadigol neu ddiwylliannol yn bennaf ond gallai unrhyw sefydliad sy'n paratoi gweithgareddau dysgu a dehongli ei defnyddio.  Gellir manteisio ar y gweithgareddau yn y fan ar lle neu ar-lein ac fe allan nhw fod yn weithgareddau unigol neu'n gyfres gyflawn sydd wedi'i ddatblygu gan un sefydliad neu ar y cyd â sefydliadau neu grwpiau cymunedol eraill. Gallai'r mathau o weithgareddau gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, weithdai, sesiynau, digwyddiadau, arddangosfeydd, arddangosiadau, perfformiadau, gweithgareddau allgymorth, systemau aml-gyfrwng neu ddeunyddiau wedi'u hargraffu. Mae'n bosibl caiff yr unigolion sy'n cymryd rhan eu cyfeirio atyn nhw fel cynulleidfaoedd, ymwelwyr neu gwsmeriaid, yn dibynnu ar y cyd-destun.

Mae'n ymwneud â chydweithio gydag ystod eang o gydweithwyr, arbenigwyr pwnc allanol a rhanddeiliaid eraill i gynnig gweithgareddau cyffrous ac sy'n ysbrydoli'r dysgwyr gan fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau. Mae'n ymwneud â gwerthuso gweithgareddau blaenorol, cytuno ar themâu, amcanion dysgu a dulliau deongliadol a dysgu, datblygu cynlluniau, dewis lleoliadau, rheoli prosiectau, cynllunio wrth gefn a gwerthuso gweithgareddau'n barhaus.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio yn y maes dehongli a dysgu gan ddefnyddio gweithgareddau i ymgysylltu gydag unigolion sy'n cymryd rhan.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwerthuso gwybodaeth berthnasol am lwyddiant gweithgareddau dysgu a dehongli wyneb-yn-wyneb neu ar-lein blaenorol o fewn a thu hwnt i'r sefydliad
  2. adnabod y gynulleidfa targed, y themâu, yr amcanion a nodau gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein sy'n cydymffurfio gyda'r strategaethau sefydliadol ar gyfer datblygu cynulleidfaoedd a dehongli a dysgu
  3. ymgynghori gyda'r bobl berthnasol am ddulliau dehongli a dysgu addas ynghyd â ffurfiau cyflawni ar gyfer gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein
  4. cynnig amcan manwl gywir o'r gyllideb, y bobl, y raddfa amser ac adnoddau eraill sydd eu hangen ar gyfer datblygu a chyflawni gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein
  5. datblygu cynlluniau ar gyfer gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein gyda deunydd wedi'i gyflwyno'n eglur ac sy'n ddigon manwl yn unol â'r gofynion sefydliadol
  6. sicrhau bod y gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein sydd wedi'u cynllunio'n berthnasol ac yn fanwl gywir gyda pherthynas amlwg gyda'r themâu sydd wedi'u hadnabod
  7. sicrhau bod y gweithgareddau dysgu a dehongli wyneb-yn-wyneb neu ar-lein yn hollgynhwysol ac yn briodol ar gyfer y gynulleidfa benodol a holl anghenion y defnyddwyr
  8. cysylltu gyda'r bobl berthnasol i geisio cytundeb am gynlluniau gweithgareddau yn ystod yr holl gamau allweddol o ran datblygu a chyflawni  
  9. cydweithio gyda'r bobl briodol i sicrhau bod unrhyw farchnata gofynnol yn cael ei gynnal mewn da bryd er mwyn denu unigolion i gymryd rhan
  10. briffio unrhyw arbenigwyr, contractwyr, staff neu wirfoddolwyr sydd ynghlwm â datblygu a chyflawni gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein gyda'r wybodaeth ddigonol iddyn nhw gyflawni eu rôl ofynnol
  11. dewis lleoliadau gyda digonedd o le ar gyfer paratoi a chyflawni gweithgareddau dysgu a dehongli wyneb-yn-wyneb neu ar-lein
  12. cynnwys gwrthrychau neu safleoedd sy'n annog pobl i gymryd rhan ac sy'n gwella profiad a dealltwriaeth unigolion o themâu gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein

  13. rhoi cynlluniau ar waith i ofalu bod gwrthrychau neu safleoedd yn ddiogel bob amser yn ystod gwaith paratoi a chyflawni gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein

  14. adnabod y risgiau a'r lleddfiadau a chynllunio cynlluniau wrth gefn realistig i ymdrin ag unrhyw amgylchiadau annisgwyl
  15. sicrhau bod y trwyddedau, cytundebau a'r yswiriant priodol wedi'u hadnabod a'u caffael
  16. sicrhau bod yr holl adnoddau'n barod pan fo'u hangen drwy gydol camau paratoi a chyflawni'r gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein
  17. sicrhau caiff gwasanaeth gofal cwsmer o safon ei gynnig drwy gydol y gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
  18. cyfrannu tuag at asesiadau a sicrhau eich bod yn gofalu am ddiogelwch yr unigolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
  19. gwerthuso gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein o gymharu â'r amcanion dysgu a hynny cyn, yn ystod ac ar ôl eu cynnal
  20. adnabod unrhyw addasiadau i weithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein parhaus a fyddai'n gwella'u heffeithiolrwydd yn y dyfodol, gan seilio'r holl gasgliadau a'r argymhellion dilynol ar ganlyniadau'r gwerthusiadau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod yr amcanion dysgu a chytuno arnyn nhw gyda'ch cydweithwyr
  2. sut i gaffael gwybodaeth am weithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein blaenorol gan gynnwys manteisio ar wybodaeth sefydliadol a chyhoeddus a thrafod gyda'ch cydweithwyr
  3. sut i gyflawni ymchwil cynulleidfaoedd i'w roi ar waith wrth gynllunio, adnabod cynulleidfaoedd a'u hanghenion
  4. yr arfer gorau a'r strategaethau sefydliadol ar gyfer datblygu cynulleidfaoedd a dehongli a dysgu, gan gynnwys themâu allweddol
  5. buddion ac anfanteision gwahanol ffurfiau gweithgareddau ar gyfer gweithgareddau ar-lein a wyneb-yn-wyneb gan gynnwys diwrnodau ac amseroedd, hyd, hygyrchedd, ymgysylltiad, cymryd rhan, adnoddau, cyllidebau a chyflawni amcanion
  6. buddion ymwneud gydag aelodau cymunedol a dysgwyr o ran cynllun, dulliau, a ffurfiau gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein a sut i ymgynghori gyda nhw
  7. y gwahanol anghenion dysgu a sut i ddarparu ar gyfer y rhain wrth gynnig gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein
  8. sut i lunio nodau ac amcanion dysgu
  9. y mathau o ddulliau deongliadol a'u buddion a'u hanfanteision a phwy ddylech chi ymgynghori gyda nhw yn eu cylch
  10. y dulliau i gynyddu dealltwriaeth a mwynhad cynulleidfaoedd wyneb-yn-wyneb ac ar-lein gan gynnwys ffyrdd difyr  o gyflwyno gwybodaeth a thechnegau i annog cynulleidfaoedd i gymryd rhan
  11. yr heriau posibl y gallai pobl gyda nam symudedd, nam ar eu clyw a'u golwg a chyflyrau niwrowahanol a rheiny o wahanol grwpiau cymunedol eu hwynebu a'r gwahanol strategaethau sydd ar gael sy'n fodd iddyn nhw fanteisio ar weithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein fel eu bod yn hollgynhwysol
  12. y sgiliau cynllunio a rheoli prosiect gan gynnwys trefnu cyllidebau ac amserlenni
  13. sut i adnabod y sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygu a chyflawni gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein a'r wybodaeth sydd ei hangen gan y rheiny sydd ynghlwm 
  14. yr amcanion deddfwriaethol a sefydliadol sy'n ymwneud â hygyrchedd, amrywiaeth a chynhwysiant, diogelwch, iechyd a diogelwch, diogelu amgylcheddol, gwarchod data a diogelu
  15. y trefniadau ar gyfer manteisio ar wrthrychau a mynediad i rannau o'ch adeilad ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â chyflawni
  16. sut i ddewis gwrthrychau neu safleoedd a'r wybodaeth i'w chynnwys
  17. beth sydd ynghlwm â'r cynlluniau wrth gefn a sut i  weithredu'r cynlluniau
  18. sut i lunio asesiad risg
  19. y trefniadau diogelwch ar gyfer gwrthrychau, safleoedd a'r rheiny sy'n cymryd rhan ar gyfer gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein
  20. y dulliau marchnata gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol, pwy i gydweithio gyda nhw ar farchnata a'r amseroedd arwain addas ar gyfer gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein a'r cynulleidfaoedd targed
  21. sut i sicrhau bod y trwyddedau, yswiriant a'r cytundebau ar waith ar gyfer gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein 
  22. y gweithdrefnau gofal cwsmer sefydliadol ar gyfer gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein
  23. yr wybodaeth i'w gynnwys mewn gwerthusiad o weithgareddau dysgu a dehongli wyneb-yn-wyneb ac ar-lein a sut i'w gasglu a'i ddadansoddi

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCCS71

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Cyffredinol, Cyfryngau a chyfathrebu, Rheolwyr Swyddogaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Cymorth dysgu uniongyrchol, Gwasanaethau cyhoeddi a gwybodaeth, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

dysgu; adddysg; dehongli; rhaglen; gweithgareddau; treftadaeth ddiwylliannol; wyneb-yn-wyneb; ar-lein; arddangosfa; digwyddiad;