Datblygu a chyflawni cynyrchiadau ar y cyd gyda chymunedau ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol

URN: CCSCH20
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chyflawni cynyrchiadau ar y cyd gyda chymunedau ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol. Gallai cynyrchiadau ar y cyd ymwneud â digwyddiadau, dysgu, dehongli neu unrhyw weithgareddau perthnasol eraill sydd o fewn cylch gwaith y sefydliad. Gellir ei ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw safon briodol ynghylch digwyddiadau neu ddysgu a dehongli.

Mae'n ymwneud ag adnabod cyfleoedd, egluro disgwyliadau, cytuno ar a chofnodi amcanion, fformat, graddfeydd amser, cyllideb a chyflwyniadau, ymgynghori gyda, briffio a diweddaru pobl eraill, cyflawni gweithrediadau y cytunwyd arnyn nhw a chaffael adborth ar gyfer gwerthuso.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â datblygu a chyflawni cynyrchiadau ar y cyd gyda chymunedau ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod cyfleoedd ar gyfer cynyrchiadau ar y cyd sydd o fewn cylch gwaith eich sefydliad
  2. treulio digon o amser yn egluro eich disgwyliadau chi a disgwyliadau'r cymunedau
  3. cydweithio gyda rhanddeiliaid ac unigolion cymunedol allweddol i adnabod yr amcanion a'r fformat ar gyfer cynyrchiadau ar y cyd
  4. cytuno ar raddfeydd amser, cyflwyniadau a chyllideb realistig ar gyfer cynyrchiadau ar y cyd gyda rhanddeiliaid, unigolion a sefydliadau allweddol
  5. sicrhau bod modd bodloni eich cyfrifoldebau chi a chyfrifoldebau eich sefydliad o ran cynllun a chyflawni'r cynyrchiadau ar y cyd
  6. dogfennu a ffurfioli rolau, cyfrifoldebau, cyflwyniadau, amseroedd a'r gyllideb ar gyfer cynyrchiadau ar y cyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad, gan ymgynghori gydag arbenigwyr cytundebol pan fo'n ofynnol
  7. rhagweld problemau ymlaen llaw gallai godi yn ystod cynyrchiadau ar y cyd, rhannu pryderon gyda chynrychiolwyr cymunedol allweddol ar adegau priodol er mwyn atal unrhyw broblemau rhagweladwy
  8. ymgynghori gydag a briffio'r bobl briodol yn eich sefydliad ynghylch cynyrchiadau ar y cyd
  9. rhannu'r diweddaraf am eich cynnydd gyda chynrychiolwyr cymunedol gyda chamau gweithredu sydd wedi'u pennu i chi neu bobl eraill yn eich sefydliad
  10. cynnig cymorth a chyngor i gynrychiolwyr cymunedol i fodloni eu cyfrifoldebau ar gyfer cynyrchiadau ar y cyd sydd o fewn eich cylch gwaith chi a chylch gwaith y sefydliad
  11. cyflawni'r gwasanaethau, cynnyrch neu'r gwaith y cytunwyd arnyn nhw ar amser a gan gadw at y gyllideb
  12. pennu prosesau sy'n cefnogi cydweithio parhaus gyda chymunedau
  13. caffael adborth gan gynrychiolwyr cymunedol ac aelodau cymunedol ar adegau priodol i lywio dulliau yn y dyfodol sy'n ymwneud â chynyrchiadau ar y cyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​pwysigrwydd a buddion cynyrchiadau ar y cyd
  2. sut i feithrin partneriaethau a phryd gallai cydweithio ategu nodau eich sefydliad a'r cymunedau
  3. pam ei bod hi'n bwysig egluro eich disgwyliadau chi a disgwyliadau pobl eraill
  4. y technegau cynllunio prosiectau gan gynnwys adnabod cryfderau a gwendidau eich sefydliad a'r rhanddeiliaid a'r grwpiau cymunedol
  5. beth gall eich sefydliad ei gyflawni a beth na allwch chi ei gyflawni
  6. pwy ddylech chi ymgynghori gyda nhw a briffio yn eich sefydliad am wahanol agweddau cynyrchiadau ar y cyd gan gynnwys cyllidebau, marchnata ac adrannau ac unigolion eraill sydd ynghlwm â dylunio a chyflawni
  7. pryd fydd angen cytundeb neu lythyr cytundeb a sut i lunio'r ddogfen hon fel ei bod yn diogelu'r ddau gorff
  8. sut i drin a thrafod cyfrifoldebau gwaith a llunio cynllun prosiect
  9. sut i ragweld y mathau o broblemau a'r ystod o anghydfodau gallai godi wrth gydweithio gydag eraill
  10. lle i gaffael cyngor arbenigol ynghylch cytundebau a llythyrau o gytundeb
  11. pwysigrwydd sgiliau rheoli prosiect a rheoli amser effeithiol a sgiliau cyfathrebu cryf
  12. sut i rannu'r diweddaraf am eich cynnydd a'ch gwaith gyda rhanddeiliaid ac unigolion cymunedol
  13. y prosesau i annog cydweithio parhaus a sut i ennill cytundeb a chefnogaeth ar eu cyfer
  14. pam ei bod hi'n bwysig cynnig a derbyn adborth adeiladol a manteisio ar adborth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCH20

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Rheolwyr Swyddogaethol, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Parciau, Llyfrgelloedd a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

partneriaethau; perthnasau; cydweithio; treftadaeth ddiwylliannol; sefydliad creadigol; cymuned; grwpiau cymunedol; cynhyrchiad ar y cyd;