Cyflawni gwaith ymgysylltu â’r gymuned ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol

URN: CCSCH19
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflawni gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol. Nod hyn yw annog cynulleidfaoedd, cwsmeriaid neu ymwelwyr targed newydd i fod ynghlwm â'ch gwaith neu i feithrin perthnasau parhaus gyda grwpiau cymunedol cyfredol. Mae hefyd yn ymwneud â chynnig gweithgareddau i'ch cynulleidfaoedd, cwsmeriaid neu ymwelwyr cyfredol y byddan nhw'n elwa ohonyn nhw neu'n eu mwynhau.  

Mae'n ymwneud ag ymchwilio llwyddiant blaenorol, adnabod rhwystrau, cydweithio gyda chymunedau, cynllunio gweithgareddau ymgysylltu, nodau, amcanion a graddfeydd amser, datblygu rhaglenni hollgynhwysol a gwerthuso llwyddiant.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n cyflawni gwaith ymgysylltu â'r gymuned ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod cynulleidfaoedd a chymunedau lleol a rhanbarthol eich sefydliad ynghyd â'u gweithgareddau a'u diddordebau
  2. defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i ymchwilio llwyddiant rhaglenni, arddangosfeydd a digwyddiadau cymunedol yn sgil gweithgareddau ymgysylltu blaenorol
  3. adnabod sut mae modd goresgyn 'rhwystrau' sy'n atal pobl rhan o'r gymuned rhag ymgysylltu yn unol âr polisïau amrywiaeth a chynhwysiant sefydliadol
  4. cydweithio gyda chymunedau a chydweithwyr i adnabod gweithgareddau ymgysylltu a meini prawf gwerthuso sy'n berthnasol i'r anghenion lleol
  5. cydweithio gyda'r bobl briodol i lunio cynllun ymgysylltu sy'n nodi gweithgareddau ymgysylltu, nodau, amcanion a'r graddfeydd amser
  6. datblygu rhaglenni sy'n ymwneud â diddordebau cynulleidfaoedd cymunedol, gan integreiddio digwyddiadau neu raglenni gyda gweithgareddau ymgysylltu eraill pan fo'n briodol
  7. sicrhau bod rhaglenni yn cynnwys holl aelodau'r gymuned yn unol â'r polisïau amrywiaeth a chynhwysiant sefydliadol
  8. cydweithio gyda'r bobl briodol yn y sefydliad i adnabod a chaffael arian a chyllid ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu
  9. defnyddio dulliau marchnata sy'n briodol i'r cynulleidfaoedd targed pan fo angen marchnata, gan gydweithio gyda chydweithwyr marchnata pan fo hynny'n briodol
  10. datblygu rhwydweithiau parhaus a rhannu arfer ar gyfer ymgysylltu cymunedol gyda chydweithwyr perthnasol yn y sector
  11. cynnig cyfleoedd ymarferol i wella dealltwriaeth cymunedau o'ch gwaith
  12. casglu a choladu gwybodaeth berthnasol i werthuso llwyddiant rhaglenni ymgysylltu â'r gymuned o gymharu â'r nodau a'r amcanion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y polisïau a'r strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant sefydliadol
  2. pam eich bod chi a'ch sefydliad wedi penderfynu ymgysylltu gyda chymunedau
  3. sut i adnabod cynulleidfaoedd, cwsmeriaid neu ymwelwyr lleol a rhanbarthol a'u hanghenion
  4. pwysigrwydd a buddion ymgysylltu gydag ystod eang o gymunedau ac agweddau i'w ystyried pan fyddwch chi'n gwneud hynny
  5. sut i ymgysylltu gydag a chydweithio'n uniongyrchol gyda chymunedau a sefydliadau cymunedol
  6. y gwahanol ddulliau a mathau o ymgysylltu
  7. buddion, defnyddiau ac anfanteision technoleg wrth ymgysylltu â'r gymuned, gan gynnwys dulliau amgen ar gyfer y rheiny sy'n methu â manteisio arno
  8. yr heriau posibl gallai pobl sydd â nam symudedd, nam ar y clyw a'r golwg a chyflyrau niwrowahanol eu hwynebu a'r gwahanol strategaethau sydd ar gael i sicrhau cynhwysiant
  9. sut i ddatblygu dull i ymgysylltu gyda sefydliadau lleol eraill
  10. sut i ddefnyddio hyfforddiant a/neu fframweithiau safonol i gyflawni arfer gorau
  11. sut i ymgysylltu gyda phobl a chymunedau mewn ffordd barchus
  12. y modelau ymchwil gallai gyfrannu tuag at ddysgu sefydliadol a chymunedol
  13. sut i bennu meini prawf gwerthuso realistig ac ystyrlon ar gyfer eich dulliau ymgysylltu â'r gymuned
  14. sut i ddysgu am ddulliau newydd o ran arfer broffesiynol a gweithgareddau cymunedol
  15. defnyddiau hunanwerthuso fel ffordd o ddysgu ar y cyd a gwella arfer

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCCS73

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Cyffredinol, Cyfryngau a chyfathrebu, Rheolwyr Swyddogaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Cymorth dysgu uniongyrchol, Gwasanaethau cyhoeddi a gwybodaeth, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

ymgysylltu cymunedol; gweithgareddau cymunedol; dysgu cymunedol; grwpiau cymunedol; treftadaeth ddiwylliannol; cwsmer; cynulleidfa; ymwelydd; parhaus; perthynas;