Gwneud copïau o dreftadaeth ddiwylliannol

URN: CCSCH16
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gwneud copïau o dreftadaeth ddiwylliannol. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at adeiladau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau hanesyddol neu eu cyfansoddion. Gallai'r copïau fod yn ddyblygiadau, yn ddirprwyon, yn gynrychioliadau, yn sganiau 3D neu'n gynrychioliadau digidol eraill. Gellir gwneud copïau er y dibenion isod:

  • cynorthwyo gyda hygyrchedd, dehongliad neu ymchwil,
  • amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol rhag triniaeth neu ddefnydd diangen, neu
  • codi arian drwy eu gwerthu
  • ymchwilio a monitro gwrthrychau sy'n cael eu harddangos, eu storio neu sydd yn y fan a'r lle er enghraifft neu os ydyn nhw mewn neu'n rhan o adeilad neu safle hanesyddol.

Mae'n ymwneud â chytuno ar ofynion, defnyddio'r technegau, yr offer a'r deunyddiau priodol i gynhyrchu copïau, cynnal uniondeb a diogelwch y dreftadaeth ddiwylliannol a'r copïau a chofnodi'r wybodaeth berthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cytuno ar y gofynion o ran gwneud copïau gyda'r bobl briodol
  2. defnyddio'r technegau, deunyddiau a'r cyfarpar priodol i wneud copïau
  3. gwneud copïau manwl gywir a digonol yn ôl yr angen a'r adnoddau sydd ar gael
  4. sicrhau eich bod yn cynnal cyflwr a diogelwch y copïau
  5. cynnal uniondeb y dreftadaeth ddiwylliannol rydych chi'n eu copïo yn ystod y broses
  6. sicrhau bod unrhyw dreftadaeth ddiwylliannol rydych chi'n eu symud yn cael ei ddychwelyd i leoliadau ac amodau addas ar ôl gweithredu  
  7. cofnodi sut a pham y cynhyrchiwyd copïau ar systemau sefydliadol
  8. defnyddio'r dulliau derbyniol i sicrhau bod modd gwahaniaethu rhwng y copïau a'r rhai gwreiddiol
  9. cofnodi diben a tharddiad copïau pan fo'n ofynnol
  10. cofnodi gofynion gofal a chynnal a chadw'r copïau ar systemau sefydliadol pan fyddan nhw wedi'u cynllunio ar gyfer defnydd hirdymor

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut gallai dyblygiadau neu gynrychioliadau fod yn ddefnyddiol
  2. y ffynonellau gwybodaeth ynghylch y gofynion o ran copïau o dreftadaeth ddiwylliannol
  3. y deunyddiau a'r cyfarpar gofynnol ar gyfer y dull copïo sydd ar waith a sut i'w defnyddio nhw gan gynnwys ar gyfer dyblygiadau, dirprwyon, cynrychioliadau, sganiau 3D neu gynrychioliadau 3D eraill
  4. sut i gynhyrchu dyblygiad neu gynrychioliad i'r safon a'r fformat gofynnol gan ddiogelu'r gwreiddiol
  5. y dulliau i wahaniaethu rhwng copïau a rhai gwreiddiol
  6. cyflwr a gofynion diogelwch priodol y copïau
  7. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi dyblygiadau neu gynrychioliadau a'u diben gan gynnwys marcio, dulliau a deunyddiau gweithgynhyrchu
  8. y mathau o systemau dogfennu a ddefnyddir, sut i'w gweithredu, y prif wahaniaethau rhwng systemau digidol ac ar bapur a'r problemau posibl ynghlwm â nhw
  9. sut i ofalu am a chynnal dyblygiadau neu gynrychioliadau a chadw cofnodion priodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCH69

Galwedigaethau Perthnasol

Hamdden; teithio a thwristiaeth, Rheolwyr Swyddogaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Adeiladu, Crefftau Adeiladu, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth, Hanes, Pensaernïaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

gwarchodaeth; dyblygiad; cynrychioliad; arteffact; gwarchodaeth; treftadaeth ddiwylliannol; copi; copïau; dirprwy; cynrychioliad; sgan 3D; digidol; adeilad treftadaeth; strwythur treftadaeth; safle treftadaeth;