Rheoli disgwyliadau'r gwahanol bobl sy'n gysylltiedig â phrosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw

URN: CCSAPLE8
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â rheoli disgwyliadau unigolion, grwpiau a rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â phrosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.

Gallai hyn fod yn ystod gwaith creu neu gyflwyno.Mae llawer o ddisgwyliadau i'w rheoli am y gallai fod gan bawb wahanol safbwynt ynghylch beth yw'r gwaith a beth yw ei ddiben.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â rheoli disgwyliadau gwahanol grwpiau wrth ddatblygu neu gyflwyno prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      adnabod anghenion a disgwyliadau unigolion, grwpiau a rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy

2      cyfathrebu mewn modd cynhwysol ac effeithiol i bob unigolyn, grŵp a rhanddeiliad ar adegau priodol

3      cyd-drafod a rheoli disgwyliadau unigolion, grwpiau a rhanddeiliaid sy'n realistig ac yn gyflawnadwy

4      adnabod a mynd i'r afael â materion a allai achosi problemau neu wrthdaro yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

5      tynnu materion na allwch fynd i'r afael â nhw at sylw pobl briodol yn ddi-oed

6      rheoli'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno rhaglenni celfyddydau er mwyn bodloni anghenion pobl gysylltiedig

 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy ynghylch anghenion a disgwyliadau pobl gysylltiedig

2      pwysigrwydd cyflwyno'ch sgiliau artistig, hwyluso a chynhwysiant cymdeithasol i'r unigolion, grwpiau a rhanddeiliaid

3      sut i ysbrydoli unigolion, grwpiau a rhanddeiliaid am gynllun, gwerthoedd, proses a deilliannau posibl eich prosiect neu'ch digwyddiad

4      pwysigrwydd cyd-drafod deilliannau realistig

5      materion a allai achosi problemau neu wrthdaro a sut i'w hadnabod

6      pwysigrwydd ymwybyddiaeth o'ch sgiliau fel y gallwch gynnig ymdeimlad cywir o'ch capasiti i gyflawni

1      sut i reoli gwaith datblygu a chyflwyno gan gynnwys cyllidebau, materion cytundebol a chyfreithiol a hawlfraint


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE8

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau cymunedol; Digwyddiadau byw; Prosiectau; Rhaglenni; Datblygu; Cyflwyno