Cefnogi prosiectau cydweithredol a digwyddiadau byw ar draws ffurfiau celfyddydol

URN: CCSAPLE7
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â darparu cymorth i'r rheiny sy'n ymgymryd â phrosiectau cydweithredol neu ddigwyddiadau byw ar draws ffurfiau celfyddydol. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.

Mae'n golygu deall y gwahanol feysydd yn y celfyddydau a sut maen nhw'n rhyngweithio â'i gilydd.  Bydd angen sgiliau TG da arnoch chi i ymgymryd ag ymchwil a chynnal cronfa ddata o ymarferwyr rhanbarthol.  Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol arnoch chi hefyd i gysylltu ag ymarferwyr a chydweithwyr.  Mae dealltwriaeth dda o anghenion a diddordebau cymunedol hefyd yn hanfodol.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â darparu cymorth i'r rheiny sy'n ymgymryd â phrosiectau cydweithredol neu ddigwyddiadau byw ar draws ffurfiau celfyddydol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      ymchwilio i wybodaeth sy'n ofynnol i greu prosiectau gan ddefnyddio arfer ar draws ffurfiau celfyddydol

2      cynnal cronfeydd data o ymarferwyr / sefydliadau rhanbarthol sy'n bodloni gofynion prosiect

3      cofnodi gwybodaeth briodol i fonitro cyfranogiad cymunedau anodd eu cyrraedd mewn prosiectau ar draws ffurfiau celfyddydol

4      cyfathrebu gydag ymarferwyr perthnasol a gontractiwyd a chydweithwyr er mwyn bodloni gofynion prosiect

5      cyfranogi mewn gweithgareddau gyda phartneriaid perthnasol ar adegau priodol

6      darparu gwybodaeth sy'n berthnasol i fonitro a gwerthuso prosiectau ar draws ffurfiau celfyddydol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      sut i ymchwilio i wahanol feysydd o fewn sectorau'r celfyddydau a sut maen nhw'n rhyngweithio â’i gilydd

2      pa ymarferwyr / sefydliadau ar draws ffurfiau celfyddydol sy'n bodoli yn y rhanbarth

3      sut mae gwahanol ffurfiau ar draws ffurfiau celfyddydau yn gallu bod yn effeithiol mewn lleoliadau cymunedol penodol

4      sut mae gwahanol ffurfiau ar draws ffurfiau celfyddydau yn gallu bod yn effeithiol wrth ymgysylltu â chymunedau anodd eu cyrraedd

5      yr hyn sy'n gysylltiedig â sefydlu gwaith cydweithredol ar draws ffurfiau celfyddydol sy'n cael eu cyflwyno mewn lleoliadau cymunedol

6      anghenion a diddordebau cymunedau

7      sut i gynnal cronfeydd data o ymarferwyr neu sefydliadau rhanbarthol

8      y gwahaniaethau rhwng sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol mewn perthynas â phrosiectau cydweithredol ar draws ffurfiau celfyddydol

9      ffurfiau celfyddydol perthnasol a fydd yn denu’r cymunedau rydych yn gweithio gyda nhw  


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE7

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Cymuned; Digwyddiadau byw; Prosiectau; Rhaglenni; Cydweithredui