Cydlynu prosiectau a digwyddiadau byw aml-bartner

URN: CCSAPLE6
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chydlynu prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw gyda phartneriaid niferus.  Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.

Mae'n golygu cynorthwyo gyda chysylltiadau partneriaethau, ymchwilio i ddarpariaeth sy'n bodoli eisoes, cyfrannu at gylchoedd gorchwyl, contractio artistiaid ac archebu offer a choladu a storio'r wybodaeth sydd ei hangen i fonitro a gwerthuso gweithgarwch.  Mae sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol yn hanfodol yn ogystal â hunan gymhelliant.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chydlynu prosiectau celfyddydau cymunedol neu ddigwyddiadau byw aml-bartner.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      ymchwilio i wybodaeth o ffynonellau dibynadwy am y ddarpariaeth leol sy'n bodoli eisoes

2      cyflwyno gwybodaeth a gasglwyd drwy ymchwil i bartneriaid ar ffurfiau cytunedig

3      paratoi cylchoedd gorchwyl gyda meini prawf cytunedig, gan awgrymu ychwanegiadau neu addasiadau i bartneriaid pan fydd yn briodol

4      monitro ac adrodd canlyniadau gofynion iechyd a diogelwch ac asesiadau risg yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

5      trefnu gweithgareddau ar gyfer prosiectau neu ddigwyddiadau sy'n bodloni cylchoedd gorchwyl a meini prawf

6      adnabod, canfod a sicrhau offer ac artistiaid sy'n ofynnol ar gyfer prosiectau neu ddigwyddiadau partneriaeth yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

7      cyflawni camau gweithredu cytunedig yn unol ag amserlenni ar gyfer prosiectau neu ddigwyddiadau

8      casglu gwybodaeth sy'n berthnasol i werthuso prosiectau neu ddigwyddiadau aml-bartner ac ymgynghori yn ei chylch

9      storio gwybodaeth am brosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw aml-bartner mewn systemau sefydliadol priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      lled a dyfnder darpariaeth celfyddydau, addysg neu ddarpariaeth arall sy'n bodoli eisoes sy'n berthnasol i'r prosiectau neu'r digwyddiadau rydych yn gweithio arnynt

2      sut i baratoi cylchoedd gorchwyl a phryd mae'n briodol awgrymu addasiadau

3      rôl a chyfrifoldebau allweddol pob aelod o'r bartneriaeth

4      sut i drefnu gweithgareddau a digwyddiadau gyda phartneriaid neu ar eu cyfer

5      sut i gynhyrchu prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw priodol sy'n denu’r gynulleidfa darged

6      gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer contractio artistiaid ac archebu offer

7      sut i drefnu chi'ch hun ac eraill

8      dulliau cyfathrebu ar gyfer y prosiectau neu'r digwyddiadau rydych yn gweithio arnynt

9      sut i gadw cymhelliant hyd yn oed pan nad yw pethau'n mynd fel y bwriadwyd

10   polisïau a deddfwriaeth sy'n berthnasol i bartneriaethau

11   pwysigrwydd monitro, gwerthuso a lledaenu mewn modd priodol

12   sut i lynu wrth amserlenni gwaith

13   sut i ddogfennu a chynnal cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE6

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Cymuned; Prosiectau; Rhaglenni; Partneriaid