Helpu i gynllunio prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw sy'n bodloni anghenion y farchnad

URN: CCSAPLE5
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chefnogi'r person sy'n cynllunio prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw i fodloni anghenion y farchnad.  Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.

Wrth ystyried prosiectau neu wasanaethau i'w cynnig gan eich sefydliad yn y dyfodol, mae'n bwysig gwybod bod angen yn y farchnad. Unwaith y sefydlwyd yr angen mae angen i chi ddeall yn glir sut byddwch yn cyrraedd y farchnad drwy weithgareddau hyrwyddo.  Unwaith i chi gyrraedd cwsmeriaid, mae angen i chi sicrhau eich bod yn rheoli eich perthynas gyda nhw ac yn parhau i fodloni eu hanghenion. Gall cwsmeriaid gynnwys cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, artistiaid ac ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â helpu i gynllunio prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw er mwyn bodloni anghenion y farchnad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      cynorthwyo gydag ymchwil ar adegau priodol i asesu anghenion y farchnad y gall y sefydliad, prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw eu bodloni

2      defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i adnabod beth sydd ei angen ar ddarpar gwsmeriaid

3      cyfrannu syniadau i bobl berthnasol i bennu ffyrdd effeithiol o fodloni anghenion cwsmeriaid a hyrwyddo a marchnata eich sefydliad, eich prosiectau celfyddydau neu'ch digwyddiadau byw

4      helpu i ddatblygu cynigion ar gyfer darpar gwsmeriaid, buddsoddwyr neu randdeiliaid ar adegau priodol

5      cytuno gyda phobl berthnasol sut i wirio bod cwsmeriaid yn hapus gyda gwasanaethau'r sefydliad

6      cytuno gydag eraill ffyrdd o ymdrin â phroblemau cwsmeriaid sy'n bodloni gweithdrefnau sefydliadol

7      cyflwyno syniadau yn barhaus ynghylch sut i wella'r hyn sydd gan y sefydliad i'w gynnig


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      technegau ymchwil a ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy

2      eich rôl chi a rôl pobl eraill mewn perthynas â chynllunio prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw

3      sut i ddatblygu cynigion

4      sut gall sefydliadau bach ddeall eu marchnad a'u cystadleuaeth

5      pwysigrwydd canolbwyntio ar anghenion, mynediad a chyfranogiad cwsmeriaid

6      sut mae sefydliadau bach llwyddiannus wedi canolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid

7      sut i ddehongli gwybodaeth am brofiad y cwsmer

8      sut i ymdrin â phroblemau cwsmeriaid

9      sut i ddod o hyd i enghreifftiau o brosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw llwyddiannus a nodi pam y bu iddyn nhw weithio

10   ffyrdd y gallwch hyrwyddo cynnyrch neu wasanaethau sefydliad heb wario arian


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE5

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Prosiectau; Digwyddiadau byw; Marchnad; Cynulleidfa darged