Datblygu syniadau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw

URN: CCSAPLE4
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â datblygu syniadau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.  Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.

Mae hyn yn golygu sefydlu, datblygu a chyflwyno syniadau, gan dynnu ar eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth am ofynion y diwydiant.  Mae'n ymwneud â sbarduno syniadau a datblygu rhai sy'n bodoli eisoes drwy awgrymu gwelliannau a deall sut caiff syniadau eu gwireddu mewn gwahanol gyfryngau a ffurfiau.  

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â datblygu syniadau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw er mwyn ymgysylltu â chymuned darged.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      ymchwilio a chasglu data o ffynonellau dibynadwy er mwyn datblygu syniadau

2      awgrymu syniadau sy'n bodloni gofynion o ran ffurf, arddull, cyllideb a marchnad darged

3      datblygu syniadau sy'n gyflawnadwy ac yn wreiddiol

4      datblygu syniadau sy'n cyfrannu at amcanion sefydliadol

5      gwirio bod modd mynd i'r afael ag unrhyw oblygiadau o ran hawlfraint a phroblemau rheoleiddiol neu gyfreithiol posibl sy'n gysylltiedig â syniadau, yn unol â gofynion cyfreithiol

6      llunio cynigion syniadau amlinellol mewn ffurfiau sy'n galluogi pobl berthnasol i'w deall 

7      datblygu gwybodaeth ddigon manwl i ategu syniadau arfaethedig a nodi a ydynt yn ddichonol

8      cynnig syniadau i randdeiliaid ar adegau priodol mewn ffyrdd sy'n amlinellu eu manteision


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      y mathau o brosiect neu ddigwyddiad sydd wedi llwyddo i ddenu cyllid yn y gorffennol

2      sut i adnabod a chyflwyno gwybodaeth am farchnadoedd targed

3      tueddiadau a datblygiadau cyfredol, yn ogystal ag anghenion cyfnewidiol y farchnad darged

4      prosesau a gweithdrefnau, gan gynnwys cyllido 

5      gofynion cyllidwyr a rhanddeiliaid eraill o ran arddull, ffurf, cyllideb a'r farchnad darged ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw

6      sut i asesu dichonolrwydd syniadau o ran cost a ffactorau technegol a logistaidd

7      sut i wirio bod eich syniad yn wreiddiol

8      unrhyw godau ymarfer cyfreithiol neu sefydliadol sy'n berthnasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE4

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Prosiectau celfyddydau; Digwyddiadau byw; Rhaglen; Syniadau; Cyflwyniadau;