Rheoli eich datblygiad proffesiynol parhaus

URN: CCSAPLE39
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â'r sgiliau a'r gefnogaeth y gallai fod eu hangen arnoch at y dyfodol ac am adnabod mecanweithiau cymorth i gynorthwyo'ch datblygiad proffesiynol.  Mae'n cynnwys eich cael chi i ddatblygu a chynnal portffolio sy'n nodi manylion eich sgiliau a'ch datblygiad.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gorfod rheoli eu datblygiad proffesiynol parhaus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      egluro'ch gwerthoedd, eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad presennol mewn ffordd glir a chywir sy'n nodi eu perthnasedd i'r diwydiant ar hyn o bryd

2      nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol yn unol ag adfyfyrio am eich arfer, adborth o'ch gwaith a chysylltiad â chyfranogwyr, cymheiriaid a rhanddeiliaid

3      nodi ffyrdd o wella'ch arfer proffesiynol a fydd yn ateb meysydd blaenoriaeth o fewn cyfyngiadau cost ac amser

4      manteisio ar gyfleoedd anffurfiol i ddatblygu eich sgiliau pan fyddant yn cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol parhaus

5      gwerthuso effaith eich datblygiad proffesiynol ar eich arfer gwaith ar adegau priodol

6      cynnal portffolio cyfoes sy'n nodi manylion eich sgiliau a'ch datblygiad proffesiynol mewn ffurf sy'n briodol i'ch diwydiant


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      sut a chan bwy i gael adborth

2      sut i ddehongli a defnyddio adborth a dderbynnir

3      pwysigrwydd rhwydweithiau ac ymaelodi â sefydliadau i'ch datblygiad proffesiynol

4      pwysigrwydd gwerthfawrogi a buddsoddi yn eich datblygiad proffesiynol

5      sut i adnabod cyfleoedd anffurfiol i ddatblygu eich sgiliau

6      dulliau datblygiad proffesiynol priodol yn eich maes gwaith

7      sut i adnabod adnoddau ar gyfer eich datblygiad proffesiynol

8      sut i gyflwyno'ch gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad ar gyfer eich diwydiant


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE39

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Cymuned; Digwyddiadau byw; Sgiliau; Datblygiad Proffesiynol