Cefnogi gweithgareddau sy'n gwella cysylltiadau cyhoeddus o fewn sefydliad creadigol a diwylliannol

URN: CCSAPLE37
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chefnogi gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus o fewn sefydliad creadigol neu ddiwylliannol.  O fewn eich sefydliadau creadigol a diwylliannol, "cwsmeriaid" yw'r holl bobl hynny sy'n defnyddio'ch gwasanaethau: cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, artistiaid, ymarferwyr, a rhanddeiliaid eraill.   Mae'n ymwneud â helpu i ddatblygu a chodi ymwybyddiaeth o bolisi cysylltiadau cyhoeddus a chasglu a defnyddio adborth cwsmeriaid i wella gweithgarwch gwasanaethau cwsmeriaid.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chefnogi gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus o fewn sefydliad creadigol neu ddiwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      gweithio gydag eraill i sefydlu polisi cysylltiadau cyhoeddus sy'n cefnogi gweithgareddau sefydliadol

2      cyfathrebu gofynion polisi cysylltiadau cyhoeddus i bobl berthnasol pan fydd gofyn

3      gweithio gydag eraill i gynhyrchu deunyddiau cysylltiadau cyhoeddus sy'n ateb gofynion sefydliadol 

4      cynnal ymwybyddiaeth o faterion lleol a chenedlaethol sy'n cael effaith ar weithgareddau'ch sefydliad

5      cefnogi eraill o fewn y sefydliad ar adegau priodol i gynnal cysylltiadau cyhoeddus da

6      cyfathrebu gydag eraill mewn ffordd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth ac sy'n cynnal cysylltiadau cyhoeddus da

7      helpu pobl berthnasol i ymdrin ag achosion o wrthdaro a allai effeithio ar gysylltiadau cyhoeddus

8      darparu adborth adeiladol i eraill ar adegau priodol ynghylch datblygu cysylltiadau cyhoeddus da

9      cynnal ymgynghoriadau sy'n denu adborth dilys am weithgareddau

10   sefydlu safonau gwasanaethau cwsmeriaid sy'n cefnogi gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus

11   cyfathrebu gyda chwsmeriaid mewn ffordd gadarnhaol yn unol â safonau gwasanaethau cwsmeriaid

12   ymdrin â chwynion cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

13   pennu anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid gan ddefnyddio dulliau ymgynghori cymeradwy

14   ymgymryd â dadansoddiad trylwyr a diduedd o adborth cwsmeriaid i bennu ffyrdd o wella gwasanaethau cwsmeriaid 

15   datblygu safonau gwasanaethau cwsmeriaid ymhellach yn unol ag adborth cwsmeriaid


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      egwyddorion cynnal cysylltiadau cyhoeddus

2      elfennau hanfodol polisi cysylltiadau cyhoeddus

3      rôl cysylltiadau cyhoeddus wrth gefnogi gweithgareddau sefydliadol

4      materion lleol a chenedlaethol a allai effeithio ar ganfyddiad y cyhoedd o gysylltiadau cyhoeddus a chynnal cysylltiadau cyhoeddus yn eich sector

5      sut i gefnogi a chymell pobl i gynnal cysylltiadau cyhoeddus da

6      dulliau cyfathrebu effeithiol, yn ysgrifenedig ar lafar

7      dulliau y gellir eu cymhwyso i ddatrys achosion o wrthdaro

8      ffynonellau gwybodaeth, yn fewnol yn y sefydliad ac yn allanol

9      pwysigrwydd datblygu perthnasau gwaith da gyda chymunedau

10   y dulliau a ddefnyddir i ymgynghori â phob rhanddeiliad

11   egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid da 

12   gofynion a phwysigrwydd safon gwasanaeth cwsmeriaid

13   nodweddion y gwasanaethau sy'n cael eu hyrwyddo i gwsmeriaid

 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE37

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Cymuned; Digwyddiadau byw; Prosiectau; Rhaglenni; Cysylltiadau cyhoeddus