Ymdrin â sefyllfaoedd o wrthdaro go iawn a gwrthdaro posibl

URN: CCSAPLE35
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ymdrin â sefyllfaoedd lle mae gwrthdaro go iawn neu wrthdaro posibl rhwng pobl. Gall fod yn berthnasol i wrthdaro gyda'r cyhoedd neu gyda chydweithwyr.  Mae'n cynnwys defnyddio cyfathrebu effeithiol ac iaith y corff i dawelu sefyllfaoedd, tra'n cynnal eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill.  Mae'n cynnwys rhoi cyngor a rhybuddion a galw am gymorth pan fydd angen. Nid yw'n cynnwys ceisio rheoli na ffrwyno rhywun. 

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n datrys sefyllfaoedd o wrthdaro go iawn neu wrthdaro posibl.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      cyfathrebu gyda phobl mewn ffordd dawel er mwyn lleiafu a lleihau gwrthdaro

2      dangos i bobl eraill bob amser eich bod yn gwrando ar yr hyn maent yn ei ddweud wrthych

3      defnyddio ffordd briodol o holi er mwyn cael gwybodaeth bellach am y sefyllfa

4      crynhoi a rhoi adborth i bobl am yr hyn maent wedi'i ddweud a chadarnhau eich dealltwriaeth o'r sefyllfa ar adegau priodol

5      defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i asesu risgiau posibl sefyllfaoedd i chi'ch hun ac eraill sy'n gysylltiedig

6      cymryd camau gweithredu priodol i gynnal eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill yn unol â chanllawiau sefydliadol

7      dilyn gweithdrefnau cytunedig ar gyfer y math o sefyllfa a'r bobl sy'n gysylltiedig

8      adrodd am sefyllfaoedd o wrthdaro a'r camau gweithredu a gymerwyd i bobl berthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      y mathau o sefyllfaoedd o wrthdaro sy'n debygol o godi a'r ymateb cywir i bob math o sefyllfa

2      ystyriaethau cyfreithiol sy'n cynnwys hunanamddiffyn a'r defnydd o rym 

3      pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ar lafar ac yn aneiriol gyda phobl mewn sefyllfaoedd o wrthdaro a sut mae cyfathrebu gwael yn gallu gwneud sefyllfaoedd yn waeth

4      pam mae'n bwysig dangos eich bod yn gwrando'n weithredol ar yr hyn sy'n cael ei ddweud a sut i wneud hynny

5      sut i ddefnyddio ffurfiau holi priodol i gael gwybodaeth am sefyllfa

6      pam mae'n bwysig crynhoi a rhoi adborth i eraill ynghylch yr hyn rydych wedi'u clywed yn ei ddweud

7      sut i gyflawni asesiadau risg mewn sefyllfaoedd o wrthdaro a'r ffactorau dylech eu hystyried

8      pryd mae'n briodol cymryd camau gweithredu penodol gan gynnwys gwneud dim, cadw i arsylwi, rhoi cyngor neu rybudd, galw am gymorth gan eraill yn y sefydliad, cael pobl wedi'u symud o'r ardal/adeilad a galw am gymorth yr heddlu

9      gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd a chofnodi sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau
**


**


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE35

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Digwyddiadau byw; Rheoli; Gwrthdaro