Ymgysylltu cyfranogwyr mewn gweithgareddau celfyddydau cymunedol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ymgysylltu’ch cyfranogwyr mewn gweithgareddau celfyddydol gyda gallu i gymhwyso amrywiaeth o ddulliau gweithredu sy'n cydbwyso anghenion unigolion a'r grŵp yn ei gyfanrwydd.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig ag arweinyddiaeth yn y celfyddydau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 nodi'r deilliannau a'r allbynnau gofynnol, dymunol a phosibl ar gyfer y gweithgarwch celfyddydau
2 cynnwys syniadau cyfranogwyr mewn ffyrdd sy'n eu hymgysylltu yn y broses greadigol
3 cyfathrebu mewn ffyrdd mae pob cyfranogydd yn eu deall
4 cefnogi syniadau creadigol a dychmygus pob cyfranogydd drwy weithgareddau celfyddydau
5 darparu cyfleoedd i gyfranogwyr adfyfyrio ar adegau priodol
6 pwyso a mesur effeithiolrwydd gweithgareddau bob amser yn ystod sesiynau
7 adnabod, awgrymu a hwyluso cyfleoedd datblygu ar gyfer cyfranogwyr sy'n ateb eu hanghenion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 strategaethau i ymgysylltu cyfranogwyr yn y gelfyddyd maent yn ei ymgymryd â hi
2 sut i ddatblygu amgylchedd cynhwysol a chefnogol
3 sut i gyflwyno'ch hun fel person proffesiynol
4 egwyddorion dulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar y person
5 dulliau o ddatblygu ffyrdd torfol o wneud penderfyniadau wrth greu celf ynghyd
6 sut i gyflwyno gweithgareddau celfyddydau sy'n cefnogi syniadau creadigol a dychmygus cyfranogwyr
7 sut i ddenu, strwythuro ac adeiladu ar syniadau cyfranogwyr
8 dulliau cyfathrebu priodol
9 dulliau i'w defnyddio i fesur effeithiolrwydd gweithgareddau
10 dulliau i werthuso priodoldeb datblygu ymhellach
11 rôl gweithwyr proffesiynol eraill wrth ddeall sut i gefnogi unigolion a'r grŵp
12 egwyddorion a sut i gymhwyso arfer adfyfyriol