Cefnogi datblygu, cyflwyno a gwerthuso prosiectau celfyddydau cymunedol

URN: CCSAPLE30
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gyda datblygu, cyflwyno a gwerthuso prosiectau celfyddydau cymunedol.  Mae hyn yn cynnwys deall nodau, amcanion, cyllidebau ac amserlenni'r prosiectau rydych yn gysylltiedig â nhw a'ch rôl oddi mewn iddynt a chyflawni'r gweithgareddau a neilltuwyd i chi pan fydd gofyn am hynny. 

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chefnogi'r rheiny sy'n datblygu, cyflwyno a gwerthuso prosiectau celfyddydau cymunedol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      cytuno ar eich rôl mewn timau prosiect gyda phobl berthnasol

2      cyflawni eich gwaith yn ôl safonau disgwyliedig ac o fewn amserlenni disgwyliedig

3      sefydlu gwybodaeth prosiectau sy'n ofynnol ar gyfer monitro cynnydd prosiectau mewn systemau priodol

4      olrhain a monitro gweithgareddau, cyllidebau ac amserlenni prosiectau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

5      ymgynghori a chasglu gwybodaeth sy'n berthnasol i werthuso prosiectau

6      trosglwyddo gwybodaeth am fonitro a gwerthuso i bobl briodol pan fydd angen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      y nodau ac amcanion allweddol ar gyfer y prosiectau rydych yn gweithio arnynt

2      gyda phwy i gytuno eich rôl a'ch gweithgareddau

3      gweithgarwch gwaith, amserlenni a chyllidebau ar gyfer y prosiectau rydych yn gweithio arnynt

4      gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer olrhain a monitro prosiectau

5      mathau o wybodaeth sy'n ofynnol i werthuso prosiect a sut i'w chasglu a'i storio

6      pryd mae'n briodol i drosglwyddo gwybodaeth i bobl eraill a phwy i'w throsglwyddo iddynt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE30

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Digwyddiadau byw; Prosiect; Rhaglenni; Cyllidebau; Nodau; Amcanion