Drafftio a gwerthuso datganiadau i'r wasg

URN: CCSAPLE27
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â pharatoi gwybodaeth i'r cyhoedd a'r wasg, ar ffurf datganiadau i'r wasg. Mae'n ymwneud ag ysgrifennu, golygu a pharatoi datganiad i'r wasg i'w gyhoeddi, a gwybod pa wybodaeth i'w chyhoeddi a sut orau i'w chyflwyno yn unol â natur y gynulleidfa. 

Bydd angen i chi ddeall yr ystyriaethau cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â rhyddhau gwybodaeth i'r cyhoedd a'r wasg, yn enwedig lle mae materion sensitif neu ddadleuol dan sylw.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â drafftio a gwerthuso datganiadau i'r wasg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      egluro a chytuno gyda phobl briodol ar arddull y deunydd sy'n ofynnol, y gynulleidfa fwriadedig, a chynnwys, hyd ac ansawdd y deunydd

2      cytuno ar adnoddau ac amserlenni gofynnol i gynhyrchu datganiadau i'r wasg gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau

3      asesu a choladu deunydd ffeithiol a graffeg sy'n gywir ac yn berthnasol i'r gynulleidfa fwriadedig

4      paratoi copi drafft yn unol â gofynion datganiadau i'r wasg, gan gytuno ar unrhyw newidiadau gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau

5      cytuno ar ddeunydd terfynol sy'n cydbwyso anghenion a diddordebau'r gynulleidfa yn erbyn cyfyngiadau amser, costau a chyfyngiadau cyfreithiol

6      cynnal cyfathrebu effeithiol gyda phobl sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a dosbarthu fel bod gofynion yn cael eu bodloni o ran amser a chyllideb

7      gwirio proflenni a sicrhau bod y deunydd yn cydymffurfio â chanfyddiadau ymchwil, cynnwys ac arddull cytunedig, polisi golygyddol a manylebau print/gwefan

8      unioni unrhyw wallau neu hepgoriadau mewn proflenni'n ddi-oed

9      sicrhau bod y gwaith cludo a dosbarthu'n cael ei gyflawni fel a gytunir

10   hysbysu pobl berthasol sut gall y cyhoedd yn gyffredinol gael hyd i ddeunydd

11   cytuno ar feini prawf i werthuso effeithiolrwydd datganiadau i'r wasg gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau

12   gwerthuso datganiad i'r wasg yn erbyn meini prawf cytunedig

13   cyflwyno canlyniadau gwerthusiadau i’r bobl briodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      sut i egluro a dod i gytundeb ynghylch disgwyliadau a gofynion ar gyfer datganiadau i'r wasg

2      ffiniau'r gyllideb rydych yn gweithio oddi mewn iddynt

3      polisi golygyddol y cynhyrchiad, a sut mae'n effeithio ar y defnydd o ddeunydd

4      y gynulleidfa fwriadedig, profiad y cwsmer a'r goblygiadau ar gyfer dethol deunydd

5      pwy yw'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau a sut i gyfathrebu gyda nhw

6      yr amserlenni a'r adnoddau sydd eu hangen i gynhyrchu'r deunydd

7      diben, cwmpas, arddull a ffurf y deunydd

8      y cyfyngiadau cyfreithiol a moesegol sy’n gysylltiedig â chyhoeddiadau

9      ffurf ac arddull ysgrifennu sy'n gysylltiedig â datganiadau i'r wasg

10   gyda phwy i gyfathrebu ar wahanol gamau yn y broses gan gynnwys y bobl sy'n gwneud penderfyniadau, dylunwyr, argraffwyr, cyhoeddwyr a'r bobl y bwriedir y datganiad i'r wasg ar eu cyfer

11   sut i gyfathrebu gyda phawb sy'n gysylltiedig a phryd mae'n briodol gwneud hynny

12   sut i adnabod ac unioni gwallau a hepgoriadau mewn proflenni

13   y broses o gyhoeddi ar y we

14   sut i bennu meini prawf er mwyn gwerthuso datganiadau i'r wasg


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE27

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Digwyddiadau byw; Cymuned; Wasg; Cyhoeddusrwydd