Denu cyhoeddusrwydd i brosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw

URN: CCSAPLE24
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â gwneud y defnydd gorau posibl o gyfleoedd i ddenu cyhoeddusrwydd i brosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.

Mae'n cynnwys hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus er mwyn gwella sylw yn y cyfryngau sydd ar gael, yn gyfryngau printiedig ac ar-lein.  Mae angen i chi ddeall yr holl brosesau sy'n gysylltiedig â marchnata a hyrwyddo digwyddiadau byw, beth yw lle adnabod a denu gwahanol fathau o gyhoeddusrwydd yn hyn o beth, a pham mae hyn yn bwysig. 

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n adnabod ac yn mwyafu cyfleoedd i ddenu cyhoeddusrwydd i brosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      cysylltu â chydweithwyr priodol i adnabod amcanion ar gyfer cyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer sefydliadau, prosiectau neu ddigwyddiadau

2      cyfrannu syniadau ar gyfer strategaethau hysbysebu, dulliau cyhoeddusrwydd amgen a'r defnydd gorau o'r gyllideb sy'n ateb anghenion cyhoeddusrwydd ar adegau priodol

3      cael gwybodaeth gywir o gronfeydd data sefydliadol am y bobl hynny sydd â diddordeb wedi'i gofrestru mewn lleoliadau, prosiectau neu ddigwyddiadau

4      adnabod cyhoeddiadau ar gyfer hysbysebu sy'n briodol i gynulleidfaoedd targed

5      defnyddio ffynonellau gwybodaeth dibynadwy i nodi dyddiadau cyhoeddi a therfynau cyflwyno ar gyfer cyfryngau priodol

6      cymryd camau dilynol ar gyhoeddusrwydd a ddosbarthwyd ar adegau sy'n cynnal momentwm

7      cylchredeg gwybodaeth ynghylch llwyddiannau cyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus i bawb y mae angen eu cadw'n gysylltiedig

8      integreiddio strategaethau cyhoeddusrwydd gyda gweithgarwch hyrwyddo arall er mwyn cyflawni amcanion marchnata


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      y gyllideb a ddyrannwyd i gyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus

2      pwysigrwydd cyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus yn y strategaeth farchnata gyffredinol ar gyfer y sefydliad neu'r digwyddiad

3      ffynonellau gwybodaeth am y gynulleidfa darged a phrofiad y cwsmer

4      sut i gael hyd i wybodaeth am y cyfryngau sy'n debygol o fod â diddordeb yn y sefydliad gan gynnwys ffynonellau mewnol neu gysylltiadau allanol

5      pwy yn y sefydliad sy'n gysylltiedig â chyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus, a pha systemau sy'n bodoli i sicrhau eu bod yn cysylltu â'i gilydd, er mwyn osgoi dyblygu

6      terfynau amser y cyfryngau ar gyfer derbyn gwybodaeth

7      teclynnau marchnata i hysbysu'r cyfryngau o gynnyrch cyhoeddi

8      asedau mewnol i'w defnyddio gan gynnwys cronfa ddata o gysylltiadau, awduron sydd wedi'u cysylltu'n dda a meicrofannau eraill ar wefan y sefydliad

9      pryd a ble i ddefnyddio cynigion hyrwyddo trydydd parti a chwmnïau marchnata

10   prosesau, defnyddiau, manteision ac anfanteision mathau amgen o hyrwyddo gan gynnwys dosbarthu taflenni, gwe-ddarllediadau, marchnata feirysol, rhwydweithio cymdeithasol, e-fforymau a blogwyr a dylanwadwyr allweddol eraill

11   gweithdrefnau camau dilynol mewnol ar gyfer monitro a chynnal momentwm mewn cyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus gan gynnwys dilyn galwadau ffôn neu e-byst

12   ble a sut i gael hyd i wybodaeth am wasanaethau monitro allanol gan gynnwys asiantaethau monitro'r cyfryngau, gwasanaethau adolygu a chrynhoi

13   pwy yn y sefydliad y mae angen rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus gan gynnwys staff gwerthu, cyfrifon allweddol, staff golygyddol a'r rhai sy'n ysgrifennu copi marchnata

14   polisi'ch sefydliad ar ailddefnyddio neu ailffurfio cynnwys, yn yr hirdymor ac yn barhaus

15   deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau'n gysylltiedig â hawliau'r defnyddiwr terfynol a'r defnydd o wybodaeth bersonol

 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE24

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Digwyddiadau byw; Cymuned; Cysylltiadau cyhoeddus; Cyhoeddusrwydd; Marchnata; Cyfathrebu