Rheoli newidiadau i amserlenni prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw

URN: CCSAPLE21
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â rheoli newidiadau i amserlenni prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.  Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.

Gallai newidiadau fod yn gysylltiedig â gweithgareddau a/neu adnoddau.   Bydd angen i chi gael gwybodaeth am geisiadau i wneud newidiadau a nodi eu goblygiadau, cyd-drafod newidiadau mewn gweithgareddau eraill, cofnodi newidiadau a gytunir a chyfathrebu newidiadau i bawb sy'n gysylltiedig.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n rheoli newidiadau i amserlenni ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      cael gwybodaeth am newidiadau a geisir o ffynonellau dibynadwy

2      cysylltu â phobl briodol er mwyn blaenoriaethu newidiadau a geisir

3      nodi goblygiadau'r newidiadau a geisir ar weithgareddau eraill yn yr amserlen a'r amserlen yn ei chyfanrwydd

4      cyd-drafod trefniadau amgen sy'n datrys problemau gydag amserlennu

5      cofnodi newidiadau a gytunir i'r amserlen a'r gweithgareddau yn unol â gofynion sefydliadol

6      cyfathrebu'r newidiadau a gytunir i bob person priodol heb oedi

7   cadw'r amserlen a ffeil y digwyddiad yn gyfoes bob amser


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      pam mae'n bwysig cynllunio a chydlynu gweithgareddau ac adnoddau

2      manteision ac anfanteision gwahanol fathau o amserlen, pryd maen nhw'n briodol a sut i'w defnyddio

3      y mathau o wybodaeth y mae'n rhaid i chi eu casglu am newidiadau a pham

4      pam mae'n bwysig blaenoriaethu gofynion, sut cânt eu blaenoriaethu a phwy dylech siarad â nhw, er mwyn adnabod a chadarnhau blaenoriaethau

5      y mathau o broblemau a allai godi pan ofynnir am newidiadau a sut i'w datrys

6      pam mae'n bwysig ceisio cydbwyso anghenion pawb sy'n gysylltiedig

7      pwy dylid eu hysbysu am newidiadau

8      pam mae'n bwysig cadw amserlenni'n gyfoes

9      pam mae materion diogelwch a chyfrinachedd yn bwysig

10   pwysigrwydd cadw ffeiliau digwyddiadau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE21

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Digwyddiadau byw; Cymuned; Prosiectau; Rhaglenni