Creu cynlluniau ac amserlenni ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw

URN: CCSAPLE20
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gwaith cynllunio prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.

Mae'n ymwneud â chysylltu ag eraill i dynnu ynghyd yr wybodaeth i greu amserlenni a llinellau amser sy'n caniatáu digon o amser i amcanion gael eu hateb, ac i adnoddau gael eu defnyddio'n effeithlon. Mae'n golygu nodi pa lwfansau sydd wedi'u gwneud ar gyfer ffactorau sy'n debygol o oedi'r cynhyrchiad a chadw cynlluniau ac amserlenni cywir a chyfoes yn ffeil y digwyddiad.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chynllunio ac amserlennu prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      cysylltu gyda'r holl bobl angenrheidiol i gael gwybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cynllunio prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw

2      dyrannu digon o amser ar gyfer pob cam yn y broses gynhyrchu er mwyn ateb amcanion a chyfyngiadau adnoddau wrth gyfrannu at greu llinellau amser

3      cyfnewid gwybodaeth am gynlluniau ac amserlenni gyda'r holl bobl hynny sy'n gysylltiedig ar adegau priodol

4      nodi ac ystyried ffactorau a allai beri oedi i'r gweithgareddau

5      gwneud cynlluniau realistig wrth gefn er mwyn ymdrin ag unrhyw oedi a allai godi

6      gwirio bod cynlluniau ac amserlenni cynhyrchu'n gywir a'u bod yn cynnwys yr holl wybodaeth hanfodol

7      cyflwyno cynlluniau ac amserlenni mewn ffyrdd y gall y rhai sy'n eu derbyn eu deall

8      dosbarthu cynlluniau ac amserlenni i'r holl bobl berthnasol, gan roi cyfleoedd iddynt nodi a mynegi eu pryderon ynghylch dichonolrwydd

9      awgrymu datrysiadau realistig sy'n mynd i'r afael ag anawsterau sydd wedi'u nodi o ran gweithredu

10   cyfathrebu newidiadau i amserlenni i'r holl bobl berthnasol heb oedi

11   cyfrannu at ffeil y digwyddiad, ei diweddaru a chyfeirio ati bob amser

 



Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      trefn ofynnol a hyd tebygol gweithgareddau mewn camau gwahanol o'r broses

2      sut gall dyraniad yr adnoddau effeithio ar gynllunio a sut i'w defnyddio'n effeithiol

3      pwysigrwydd y llinell amser

4      ffactorau sy'n gallu effeithio ar y ffordd caiff gweithgareddau eu hamserlennu

5      natur a phwysigrwydd cymharol gweithgareddau sy'n codi mewn camau gwahanol o'r broses

6      sut mae gwahanol amgylcheddau cynhyrchu a mathau a graddfeydd cynhyrchu'n gallu effeithio ar amserlennu

7      effaith debygol gweithio dramor ar amserlenni, gan gynnwys amserau teithio, oediadau amser a hinsawdd

8      mathau o gynlluniau wrth gefn sy'n gallu bodoli, a sut i ganiatáu ar gyfer y rhain wrth amserlennu

9      ffactorau y dylid eu cynnwys mewn cynlluniau ac amserlenni

10   pwy ddylai dderbyn copïau o'r amserlenni a phryd

11   y mathau o anawsterau a allai godi wrth weithredu cynlluniau, a sut gellid datrys y rhain

12   pwy mae angen eu hysbysu am newidiadau i'r amserlen

13      pwysigrwydd ffeil y digwyddiad a sut i gyfrannu at ei chreu a'i chynnal

 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE20

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Digwyddiadau byw; Cymuned; Cynllunio; Amserlenni; Digwyddiadau