Gwerthuso prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw

URN: CCSAPLE2
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â gwerthuso prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.  Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.

Mae hyn yn cynnwys defnyddio adborth a gwybodaeth o amrywiol ffynonellau a'u dadansoddi yn erbyn nodau ac amcanion.  Mae hefyd yn cynnwys llunio canlyniadau a defnyddio'r canlyniadau hynny i lywio gwaith yn y dyfodol.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â gwerthuso prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      cael gwybodaeth am nodau, amcanion, allbynnau a meini prawf gwerthuso o ffynonellau dibynadwy

2      dyfeisio dulliau gwerthuso sy'n bodloni meini prawf gwerthuso

3      casglu adborth gan gyfranogwyr a rhanddeiliaid eraill ar adegau priodol

4      defnyddio adborth a gwybodaeth arall o ffynonellau perthnasol mewn gwerthusiadau

5      gwerthuso effaith prosiectau a digwyddiadau yn erbyn eu nodau, eu hamcanion a'u deilliannau

6      coladu, cofnodi a dadansoddi adborth er mwyn cynhyrchu canlyniadau a chasgliadau cywir

7      llunio adroddiadau gwerthusol ar gyfer rhanddeiliaid yn unol â deddfwriaeth ac arfer gorau cyfredol

8      addasu eich gwaith yn y dyfodol yn unol â chasgliadau a gasglwyd drwy adborth


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      ffynonellau gwybodaeth am nodau, amcanion, allbynnau a meini prawf gwerthuso

2      gwahanol ymagweddau i'w defnyddio wrth ddadfriffio cyfranogwyr, gweithwyr llawrydd a rhanddeiliaid

3      sut i ddangos effaith prosiectau, digwyddiadau a phrofiad cyffredinol cwsmer ar gyfranogwyr

4      sut i gyflwyno gwaith gwerthuso sy'n berthnasol i nodau'r prosiectau a'r digwyddiadau a osodwyd gennych chi neu gan gyflogwyr/rhanddeiliaid

5      ystod o ddulliau priodol o gasglu data gan unigolion, grwpiau a rhanddeiliaid

6      gwybodaeth arall sy'n berthnasol i waith gwerthuso

7      pwysigrwydd myfyrio ac adborth i lywio'r hyn gallech ei wneud yn y sesiwn ac yng ngweddill y rhaglen 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

APLE2

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Cymuned; Digwyddiadau byw; Gwerthusiad