Cyfrannu at baratoi contractau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw

URN: CCSAPLE18
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn cynnwys sefyllfaoedd lle byddwch chi'n darparu cymorth i gydweithwyr wrth lunio a chynnal contractau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw.  Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.

Byddwch yn cadw cofnodion o'r cytundebau a luniwyd, yn paratoi drafftiau ac yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw'n gyfoes. 

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chynorthwyo wrth baratoi contractau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      cadw cofnodion cywir o ddeilliannau cyd-drafodaethau ar gyfer bargeinion a chytundebau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

2      dod â chynseiliau a chytundebau ffurf safonol i sylw pobl briodol pan fydd yn berthnasol

3      paratoi contractau drafft yn unol â chytundebau a wneir

4      cyfathrebu gydag artistiaid a chyhoeddwyr er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar gyfer contractau'n gywir ac yn gyfoes

5      briffio cydweithwyr priodol yn gyson am newidiadau a diweddariadau i gontractau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      sut caiff contractau cymhleth eu drafftio a'u llunio

2      cynnwys contractau masnachol

3      diben contractau a sut cânt eu defnyddio yn eich diwydiant

4      pwysigrwydd bargeinion, cytundebau, contrâu ac atodiadau

5      y math o wybodaeth y dylid ei chynnwys mewn contract gan gynnwys contrâu ac atodiadau

6      eich trefniadau sefydliadol ar gyfer llunio contractau

7      sut i gofnodi canlyniadau cyd-drafodaethau

8      cynseiliau a chytundebau ffurf safonol

9      trwyddedau a thaliadau PRS


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE18

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Digwyddiadau byw; cymuned; Contractau; Cytundebau