Argymell lleoliadau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw

URN: CCSAPLE15
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag argymell lleoliadau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.  Gellid adnabod lleoliadau ar gyfer prosiect neu ddigwyddiad sydd wedi'i gynllunio neu ar gyfer adnabod lleoliadau i gynnal prosiect neu ddigwyddiad sy'n bodoli eisoes.

Mae'n golygu adnabod gofynion lleoliad ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau, yn ogystal â chwilota ac argymell lleoliadau priodol. Mae'n ymwneud â meddu ar wybodaeth dda o leoliadau posibl, yn ogystal â'r gallu i ymgymryd ag ymchwil gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth perthnasol. Mae'n golygu deall anghenion y gynulleidfa darged ac asesu lleoliadau posibl o ran eu haddasrwydd a'u cost, gan gymryd amrywiol ffactorau i ystyriaeth, gan gynnwys gofynion tîm rheoli'r digwyddiad. Mae'n ymwneud ag argymell lleoliadau posibl sy'n bodloni gofynion y digwyddiad. 

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n argymell lleoliadau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      gwirio'ch dealltwriaeth o nifer, math a threfn lleoliadau a'r meini prawf mae'n rhaid iddynt eu bodloni gyda phobl berthnasol

2      ymchwilio i briodoldeb lleoliadau gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy

3      trefnu astudiaethau dichonolrwydd o leoliadau anhysbys sy'n pennu eu cydnawsedd â gofynion

4      cysylltu ag awdurdodau perthnasol i ganfod argaeledd lleoliadau

5      cael gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy am y costau sy'n gysylltiedig â lleoliadau, gan gynnwys unrhyw ganiatadau a thrwyddedau gofynnol

6      cofnodi gwybodaeth am leoliadau mewn digon o fanylder i'ch galluogi i wneud asesiadau rhesymedig

7      cofnodi ystyriaethau arbennig, problemau ac anawsterau sy'n gysylltiedig â lleoliadau mewn systemau a ffurfiau sefydliadol cymeradwy

8      argymell lleoliadau sy'n cydbwyso anghenion cynhyrchu yn erbyn cyfyngiadau ariannol a logistaidd

9      argymell trefniadau ymarferol wrth gefn sy'n caniatáu os nad yw lleoliadau ar gael


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      gofynion lleoliadau gan gynnwys anghenion y gynulleidfa darged

2      y ffiniau cyllidebol rydych yn gweithio oddi mewn iddynt

3      ffynonellau gwybodaeth am leoliadau a sut i'w cyrchu

4      sut i gymryd nodiadau manwl a thynnu lluniau neu fideo clir a disgrifiadol o leoliadau i gefnogi gwaith asesu a chynllunio

5      sut i ganfod pwy yw perchnogion lleoliadau

6      sut i ddod i gysylltiad â phobl berthnasol mewn awdurdodau lleol

7      y mathau o sefydliadau ac unigolion y mae angen caniatadau ganddynt

8      gwahanol fathau o drwyddedau y gallai fod eu hangen pan yn defnyddio lleoliadau penodol

9      gofynion tebygol pob adran sy'n gysylltiedig o ran mynediad, allanfeydd a ffynonellau pŵer

10      mathau o ystyriaethau arbennig, problemau ac anawsterau gan gynnwys materion hinsawdd, ffisegol, amgylcheddol, cyfreithiol ac iechyd a diogelwch a allai gyfyngu ar fynediad a goblygiadau moesegol

11      sut i adnabod y ffactorau cyfreithiol neu foesegol sy'n effeithio ar leoliadau

12      y ffactorau a allai olygu nad yw rhai lleoliadau ar gael gan gynnwys tywydd garw ar gyfer lleoliadau awyr agored

13      sut i gyflwyno'ch argymhellion    


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE15

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Digwyddiadau byw; Cymuned; Lleoliadau