Gweithio gyda thimau diogeledd i sicrhau diogelwch a diogeledd yn ystod digwyddiadau

URN: CCSAPLE14
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â’ch gwaith chi yn cefnogi'r rhai sy'n gweithredu diogelwch a diogeledd yn ystod digwyddiadau. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.

Mewn lleoliadau sefydlog bydd sefydliadau'n cyflogi eu tîm diogeledd eu hunain, neu fel arall gellid contractio'r gwaith diogeledd i sefydliad diogeledd. Bydd gofyn i chi gysylltu â'r rhai sy'n ymgymryd â'r gweithgareddau diogelwch a diogeledd mewn perthynas â materion a nodir drwy asesiad risg a chyfarwyddiadau arbennig yn ymwneud â phethau fel diogelu offer. Bydd gofyn hefyd i chi gynorthwyo gyda lleoli arwyddion. 

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gyda thimau neu sefydliadau diogeledd er mwyn sicrhau diogelwch a diogeledd yn ystod digwyddiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.     cyfnewid yr holl wybodaeth berthnasol gyda phobl sy'n ymgymryd â gweithgareddau diogelwch a diogeledd er mwyn sicrhau bod digwyddiadau'n ddiogel

2.     cyflawni asesiadau risg i adnabod bygythiadau a risgiau diogeledd posibl yn unol â deddfwriaeth ac arweiniad presennol

3.     adrodd am fygythiadau a risgiau diogeledd posibl wrth y bobl briodol yn y tîm/sefydliad diogeledd ar adegau priodol

4.     cael gwybodaeth gywir o ffynonellau dibynadwy am unrhyw drefniadau, gofynion neu gyfarwyddiadau diogeledd arbennig

5.     cyfathrebu cyfarwyddiadau, gofynion neu drefniadau arbennig i bobl briodol yn y tîm/sefydliad diogeledd ar adegau priodol

6.     lleoli hysbysiadau diogeledd gweledol a ddangosir ar gynlluniau perthnasol

7.     gwerthuso gosodiad offer diogelwch a hysbysiadau ar gyfer digwyddiadau yn unol â deddfwriaeth bresennol

8.     gwerthuso diogeledd ar gyfer digwyddiadau ar sail asesiad risg ac amcanion trwyddedu

9.     asesu'r posibilrwydd y bydd trosedd ac anhrefn mewn digwyddiadau a chyflwyno eich argymhellion i’r bobl briodol ar adegau priodol

10.  dilyn argymhellion cytunedig a fydd yn lleihau'r posibilrwydd y bydd trosedd ac anhrefn mewn digwyddiadau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

 

1.     y bobl sy'n gysylltiedig a'r gadwyn reoli yn y tîm/sefydliad diogeledd rydych yn gweithio gydag ef

2.     sut i gyflawni asesiadau risg o fygythiadau diogeledd posibl

3.     gweithdrefnau’ch sefydliad ar gyfer ymdrin â diogeledd mewn digwyddiadau

4.     i bwy dylech gyfathrebu er mwyn adnabod gofynion arbennig gan yr heddlu a'r awdurdodau trwyddedu

5.     o ble i gael gwybodaeth am gyfarwyddiadau arbennig gan gynnwys y rhai yn ymwneud â diogelu offer

6.     gweithdrefnau'ch sefydliad ar gyfer cyflawni gofynion/cyfarwyddiadau arbennig

7.     perthnasedd a goblygiadau deddfwriaeth yn ymwneud â diogeledd fel y mae'n berthnasol i ddigwyddiadau

8.     sut i adnabod lleoliad arwyddion gan weithio oddi ar gynllun

9.     y mathau o yswiriant sy'n ofynnol ar gyfer digwyddiadau

10.  y mathau o bethau a allai leihau'r posibilrwydd o drosedd neu anhrefn gan gynnwys trafod aildrefnu staff diogeledd gyda'r rhai sy'n gyfrifol, cael hyd i offer, ychwanegu arwyddion ychwanegol, cael mynediad i ardaloedd nad ydynt yn agored i'r cyhoedd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE14

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Digwyddiadau byw; Cymuned; Diogelwch; Diogeledd