CCSAPLE1 Ymchwilio gwybodaeth i ategu syniadau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw

URN: CCSAPLE1
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ymchwilio i syniadau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw.  Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau. 

Bydd angen i chi gasglu a chofnodi gwybodaeth yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol a chymhwyso sgiliau dadansoddi i ddata perthnasol er mwyn cynhyrchu canlyniadau a chasgliadau cywir.  Bydd disgwyl i chi grynhoi'r wybodaeth yn glir a'i chyflwyno mewn modd clir a chywir ar ffurf berthnasol i bobl briodol.  

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig ag ymchwilio i syniadau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau er mwyn ymgysylltu â chynulleidfa darged.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      cael gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy lle mae digon o fanylion at ddiben defnyddio'r wybodaeth honno

2      cofnodi a storio gwybodaeth a gasglwyd yn unol â systemau a gweithdrefnau sefydliadol

3      dethol gwybodaeth berthnasol, ddilys a dibynadwy i'w dadansoddi

4      cymhwyso technegau dadansoddi a gwerthuso sy'n briodol at ddiben yr ymchwil

5      coladu, cofnodi a dadansoddi'r wybodaeth i gynhyrchu canlyniadau a chasgliadau cywir

6      gwirio cywirdeb y dadansoddi gan ddefnyddio technegau priodol, gan wneud addasiadau pan fydd angen

7      cynhyrchu crynodebau cyflawn a chywir o ymchwil sy'n berthnasol at y diben bwriadedig

8      darparu canlyniadau ymchwil mewn arddull sy'n briodol i allu, gwybodaeth a dealltwriaeth y bobl sy'n eu derbyn

9      rhoi cyngor ynghylch canlyniadau ymchwil sy'n gyson â pholisi a gweithdrefnau’r sefydliad a chyfyngiadau adnoddau

10   ceisio adborth gan bobl berthnasol am ganlyniadau ymchwil a ddarperir gennych, gan ddefnyddio'r adborth hwn i wella ffyrdd y byddwch yn darparu canlyniadau yn y dyfodol  


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      dulliau a thechnegau ymchwilio perthnasol

2      ffynonellau perthnasol yn y sector rydych yn gweithio ynddo

3      ffynonellau penodol ar gyfer eich sefydliad neu'ch prosiect

4      sut i werthuso ffynonellau gwybodaeth o ran eu dibynadwyedd

5      systemau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth

6      manylion yr wybodaeth sy'n ofynnol i wneud penderfyniadau

7      sut i goladu a chofnodi'r wybodaeth er mwyn cynhyrchu canlyniadau a chasgliadau cywir

8      technegau i wirio cywirdeb dadansoddi a pham mae'n bwysig gwneud hynny

9      sut i grynhoi gwybodaeth

10   arddulliau cyfathrebu sy'n briodol i allu, gwybodaeth a dealltwriaeth y bobl rydych yn cyfathrebu â nhw 

11   polisïau, gweithdrefnau a chyfyngiadau adnoddau'r sefydliad

12   dulliau ar gyfer casglu adborth gan y rhai sy'n ei dderbyn

13   sut i ddadansoddi adborth i wella arfer yn y dyfodol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE1

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

celfyddydau; digwyddiadau byw; ymchwil; prosiect; rhaglenni