Cyfrannu at gynhyrchu a dosbarthu deunydd cyhoeddusrwydd

URN: CCAPLE26
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch cael chi i gynorthwyo wrth gynhyrchu a dosbarthu deunydd a ddefnyddir i hyrwyddo prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Bydd gofyn i chi gyfrannu at gynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd. Bydd angen i chi ddeall yr holl brosesau sy'n gysylltiedig â marchnata a hyrwyddo, ble mae cynhyrchu a dosbarthu deunydd cyhoeddusrwydd yn eistedd yn hyn o beth, a pham mae'n bwysig. Mae gofyn sgiliau cyfathrebu rhagorol i ddatblygu perthnasau gwaith cadarnhaol yn fewnol yn y sefydliad ac yn allanol.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n cyfrannu at gynhyrchu a dosbarthu deunydd cyhoeddusrwydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      coladu gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy ynghylch y gofynion ar gyfer deunydd cyhoeddusrwydd

2      nodi ffurfiau cyhoeddusrwydd amgen sy'n arloesol ac yn gost-effeithiol ac yn ateb gofynion cyhoeddusrwydd

3      cytuno adnoddau ac amserlenni sydd eu hangen i gynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd gyda phobl briodol

4      coladu gwybodaeth a deunydd sy'n ofynnol i greu deunydd cyhoeddusrwydd o ffynonellau priodol

5      cyflawni tasgau sydd wedi'u neilltuo i ddatblygu a dosbarthu e-daflenni a bwletinau newyddion yn unol â chyfarwyddiadau

6      cyfathrebu gyda dylunwyr, argraffwyr a chyhoeddwyr o dan gyfarwyddyd cydweithwyr priodol i sicrhau bod deunydd yn cael ei gynhyrchu a'i gyflwyno’n unol â gofynion cytunedig

7      nodi gwallau neu hepgoriadau mewn proflenni yn erbyn disgwyliadau

8      ymgynghori â phobl briodol i adnabod dosbarthwyr priodol ar gyfer deunydd cyhoeddusrwydd

9      cyfathrebu gyda dosbarthwyr i sicrhau dosbarthiad deunydd cyhoeddusrwydd yn unol â gofynion cytunedig

10   cadw cofnodion clir, cywir a chyflawn o gysylltiadau gyda'r cyfryngau a gwybodaeth a roddir i'r cyfryngau ac a gafwyd wrthynt

11   hysbysu pobl briodol o broblemau neu anawsterau sydd y tu hwnt i'ch cyfrifoldebau chi'ch hun


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      sut i gadw ar ben y tueddiadau presennol yn eich sector

2      sut i werthuso dulliau hyrwyddo yn ôl eu harloesedd a'u cost-effeithiolrwydd

3      dulliau a fforymau ar gyfer marchnata feirysol

4      gwybodaeth berthnasol am y gynulleidfa darged a phrofiad y cwsmer

5      gwahanol fathau o gyhoeddusrwydd gan gynnwys blogwyr, cysylltiadau cyhoeddus, rhoi anogaeth i gwsmeriaid presennol i gyflwyno cwsmeriaid newydd

6      sut i ddatblygu a dosbarthu e-daflenni a bwletinau newyddion

7      y mathau o wybodaeth a deunydd sy'n ofynnol ar gyfer deunydd cyhoeddusrwydd

8      sut i brawfddarllen deunyddiau

9      dulliau dosbarthu deunydd cyhoeddusrwydd

10   sut i gynnal ffeil digwyddiad a'r wybodaeth y dylid ei chadw ynddi

11   y mathau mwyaf effeithiol o hysbysebu ar gyfer mathau penodol o ddigwyddiadau byw

12   ffurfiau cyhoeddusrwydd amgen gan gynnwys marchnata feirysol

13   sut i gyfathrebu gyda phobl yn y sefydliad a’r tu allan

14   pwysigrwydd datblygu a chynnal perthnasau gwaith da

15   wrth bwy i adrodd problemau neu anawsterau  


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE26

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Digwyddiadau byw; Cymuned; Cyhoeddusrwydd; Marchnata; Cyfathrebu