Prosesu apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r awdurdod lleol

URN: ASTAP1L
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Asset Skills
Cymeradwy ar: 31 Hyd 2013

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a phrosesu apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r awdurdod lleol a chyfathrebu'r canlyniadau i'r apelyddion. Gallai'r rhain fod yn drethdalwyr, ymgeiswyr am fudd-dal tai neu bartïon eraill yr effeithir arnynt. Mae'r uned hon yn cynnwys gwirio a wnaed y penderfyniadau cywir ac a oes achos apelio, casglu a dosbarthu'r dogfennau angenrheidiol a chyfathrebu gydag apelyddion.

Yn y safon hon, mae'r term 'trethdalwyr' yn cyfeirio at dalwyr y dreth gyngor, ardrethi domestig yng Ngogledd Iwerddon ac ardrethi annomestig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1  penderfynu ar ddilysrwydd a sail yr apêl
P2  adnabod y partïon i'r apêl
P3  adolygu'r penderfyniad gwreiddiol i sicrhau ei fod yn gywir a'i adolygu os yw'n briodol
P4  prosesu'r dogfennau sy'n ofynnol ar gyfer yr apêl, lle bo'n briodol, a'u hanfon at y partïon perthnasol
P5  cyfathrebu canlyniad yr apêl i'r apelydd mewn fformat priodol ac o fewn yr amser gofynnol, lle bo'n berthnasol
P6  rhoi gwybod i'r apelydd am unrhyw hawl pellach i apelio lle mae'r apêl wedi ei gwrthod


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Y Fframwaith Statudol

**K1  hawl yr unigolyn i apelio yn ôl y ddeddfwriaeth
K2  paramedrau'r hyn y gellir ei apelio

Y Sefydliad

K3  y prosesau a'r gweithdrefnau penodol, a'r dogfennau gofynnol, sy'n ymwneud ag apeliadau yn eich maes o arbenigedd neu weithrediad
K4  sut i wirio i sicrhau bod penderfyniadau'n gywir ac yn cydymffurfio â'r rheoliadau
K5  gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer prosesu apeliadau
K6  y meini prawf sy'n ymwneud â phwerau'r awdurdod a hawliau'r unigolion sy'n cael eu heffeithio wrth ddelio ag anghydfodau, ailystyriaethau, ac apeliadau
K7  y meini prawf sy'n llywio'r broses apelio, gan gynnwys y terfynau amser ar gyfer apelio
K8  yr amodau sy'n llywio'r pwer i newid penderfyniadau a'r dyddiad pan ddaw'r penderfyniad newydd yn weithredol
K9  cynnwys hysbysiad penderfynu yn dilyn apêl
K10  sut i roi gwybod i apelyddion am brosesau apelio a phenderfyniadau
K11  y weithdrefn ar gyfer apelio ymhellach yn dilyn penderfyniad
K12  y gwahanol fathau o apeliadau a'u prosesau
K13  at bwy i gyfeirio materion nad ydynt o fewn eich cyfrifoldeb neu'ch cylch gwaith
K14  gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiogelu data berthnasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Y Bartneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

AP1

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid, Cyfrifyddu a chyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweinyddu refeniw lleol; cynnal a chadw cofnodion o eiddo; pennu atebolrwydd a'r symiau sy'n ddyledus; gweithredu gweithdrefnau ar gyfer bilio a chasglu taliadau; adfer a gorfodi symiau sy'n orddyledus; gwerthuso hawliadau am fudd-daliadau; cyfrifo a thal