Rhoi arweinyddiaeth i wirfoddolwyr a gweithwyr ieuenctid eraill
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cymorth, mentora, hyfforddiant a chyngor gwaith ieuenctid i weithwyr eraill. Byddwch yn rhannu eich ymarfer proffesiynol gwaith ieuenctid eich hun wrth ddarparu cymorth.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer ymarferwyr gwaith ieuenctid sy'n gweithio ag eraill i ddarparu gwasanaethau gwaith ieuenctid ac sy'n rhoi iddynt gymorth a chyngor heb fod ganddynt gyfrifoldebau rheolwr llinell. Mae hefyd yn addas i weithwyr ieuenctid sy'n helpu ei gilydd i ddatblygu eu hymarfer gwaith ieuenctid.
Yng nghyd-destun y safon hon, gall gweithwyr eraill olygu'r rheini sy'n gweithio yn eich sefydliad neu sydd y tu allan iddo, gan gynnwys rhai nad oes ganddynt gyfrifoldebau na rôl benodol ym maes gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- darparu cymorth, mentora, hyfforddiant a chyngor gwaith ieuenctid i weithwyr eraill
- helpu eraill yn eich maes gwaith i ddatblygu eu ffyrdd eu hunain o weithio a gwneud eu penderfyniadau eu hunain o fewn y ffiniau y cytunwyd arnynt
- cynorthwyo gweithwyr eraill i arwain yn eu meysydd arbenigedd eu hunain a dangos parodrwydd i ddilyn yr arweiniad hwn
- gweithio o fewn unrhyw ofynion, strwythurau a gweithdrefnau gofynnol eich sefydliad chi a sefydliadau eraill wrth roi cymorth i weithwyr eraill
- gweithio'n unol â'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n ategu gwaith ieuenctid wrth weithio ag eraill
- delio ag unrhyw anawsterau a heriau y gallai gweithwyr eraill a gwirfoddolwyr eu cyflwyno ichi
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid, a'u heffaith yn eich maes gwaith chi
- y gwahaniaethau sylfaenol rhwng rheoli a rhoi cymorth os nad ydych mewn rôl rheoli
- y mathau o gymorth y gellir ei roi megis mentora, goruchwyliaeth anffurfiol a chyngor ar ymarfer proffesiynol, a sut mae'r rhain yn wahanol
- y mathau o gymorth a chyngor y mae eraill yn debygol o fod eu hangen a sut i ymateb i'r rhain
- ffyrdd o adlewyrchu ymarfer proffesiynol gwaith ieuenctid wrth ddarparu cymorth, mentoriaeth neu oruchwyliaeth anffurfiol i weithwyr eraill
- ffyrdd gwahanol o gyfathrebu ag eraill a sut i ddewis a defnyddio dulliau mewn gwahanol sefyllfaoedd yn llwyddiannus
- mathau o anawsterau a heriau a allai godi, gan gynnwys gwrthdaro yn y maes, a ffyrdd o'u hadnabod a'u goresgyn
- pwysigrwydd annog eraill i gymryd yr awenau a ffyrdd o gyflawni hyn
- sut i rymuso pobl eraill yn effeithiol
- sut i ddewis a defnyddio'n llwyddiannus wahanol ddulliau o annog, cymell a chefnogi eraill a chydnabod llwyddiant
- eich gwerthoedd, eich cymhellion a'ch emosiynau
- eich rôl, eich cyfrifoldebau a'ch lefel annibyniaeth
- amcanion cyffredinol eich sefydliad
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon