Gweithio fel ymarferydd gwaith ieuenctid effeithiol a beirniadol-fyfyriol

URN: YW25
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â myfyrio ar eich effeithiolrwydd eich hun fel ymarferydd gwaith ieuenctid, gan ddewis ffyrdd y gallech wella eich ymarfer a chael gafael ar ffynonellau cymorth a chyfleoedd i gynnal eich datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adolygu gofynion eich rôl yn awr ac i'r dyfodol yn unol â'r gofynion deddfwriaethol a gwerthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid
  2. cofnodi eich myfyrion beirniadol ar eich gwerthoedd, eich buddiannau a'ch blaenoriaethau o safbwynt y bobl ifanc yr ydych chi'n gweithio â nhw
  3. monitro canlyniadau eich ymarfer a gweld meysydd i'w datblygu a'u gwella
  4. adolygu a diweddaru eich blaenoriaethau a'ch amcanion datblygu i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar wella'r canlyniadau i bobl ifanc
  5. defnyddio canlyniadau eich myfyrion a'ch datblygu i wella eich ymarfer eich hun wrth gynnal gwerthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid ac wrth gyflawni amcanion eich sefydliad
  6. gwneud y gorau o'r ffynonellau cymorth a'r cyfleoedd ar gyfer datblygu proffesiynol parhaus a rhoi sylw i fannau gwan
  7. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gwerthoedd, amcanion a blaenoriaethau eich sefydliad
  2. eich gwerthoedd, eich buddiannau a'ch blaenoriaethau personol a sut mae'r rhain yn effeithio ar eich ymarfer a'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw
  3. gofynion eich rôl waith, a therfynau eich cyfrifoldeb a'ch awdurdod
  4. ffyrdd o fyfyrio ar eich gwerthoedd, eich egwyddorion, eich arferion, eich cryfderau a'r meysydd i'w datblygu
  5. pwysigrwydd adolygu a myfyrio ar eich gwaith yn rheolaidd a cheisio ffyrdd o wella
  6. ffyrdd o gael adborth gwrthrychol gan bobl ifanc, cydweithwyr, rheolwyr a phartneriaid ar eich perfformiad fel ymarferydd gwaith ieuenctid
  7. sut i ganfod yr amcanion a'r blaenoriaethau datblygiad proffesiynol a phersonol a fydd yn eich gwneud yn fwy cymwys ac effeithiol fel ymarferydd gwaith ieuenctid
  8. cyfleoedd dysgu a datblygu sy'n cyd-fynd â'ch dulliau dysgu dewisol ac sy'n rhoi sylw i'r bylchau a welwyd yn eich gwybodaeth a'ch sgiliau
  9. ffurfiau ar help a chymorth sydd ar gael ichi ac i eraill a sut i gael gafael arnynt
  10. pam dylech chi geisio adborth yn rheolaidd ar eich ymarfer gan bobl ifanc, cydweithwyr, rheolwyr a phartneriaid
  11. sut i adolygu eich amcanion a'ch blaenoriaethau datblygu'n barhaus i sicrhau eu bod yn eich helpu i gynnal gwerthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid a gwella'r canlyniadau i bobl ifanc
  12. gofynion dysgu a datblygu'r rôl ymarferydd gwaith ieuenctid
  13. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW30

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; pwyso a mesur; effeithiol; ymarfer; goruchwyliaeth; goruchwylio; gwerthoedd; gwelliant; gwella; datblygiad proffesiynol parhaus; canlyniadau; cymhwysedd; blaenoriaethau; cymorth; cefnogaeth; cefnogi; adborth